Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: YR ATODLEN

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021, YR ATODLEN. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 5

YR ATODLENLL+CCyfansoddiad

RHAN 1LL+CGweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodyddLL+C

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y De-ddwyrain gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Penodi cadeirydd ac is-gadeiryddLL+C

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y De-ddwyrain—

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw [F1aelodau eraill] sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Caiff person a benodir yn gadeirydd neu’n is-gadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau eraill.

(6Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y De-ddwyrain a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(7Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(8Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (6) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddolLL+C

3.  Rhaid i CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraillLL+C

4.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y De-ddwyrain gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

CworwmLL+C

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

[F2(i)rheoliad 8(2B);

(ia)rheoliad 17, neu]

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn bleidleisioLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain—

[F3(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,]

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-ddwyrain y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

[F4(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y De-ddwyrain bleidleisio drwy ddirprwy.]

[F5(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Rheolau sefydlogLL+C

8.—(1Rhaid i CBC y De-ddwyrain wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CStaff

CyffredinolLL+C

9.[F6(1)] Caiff CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(1).

[F7(2) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-ddwyrain gyflawni ei swyddogaethau’n briodol. ]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Telerau ac amodauLL+C

10.—(1Pan fo CBC y De-ddwyrain yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-ddwyrain.

[F8(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Staff o awdurdodau eraillLL+C

11.—(1Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(2)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-ddwyrain ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-ddwyrain at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-ddwyrain at ddibenion—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-ddwyrain neu ag arfer ei swyddogaethau.

[F9(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraillLL+C

12.—(1Caiff CBC y De-ddwyrain ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y De-ddwyrain at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff CBC y De-ddwyrain yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-ddwyrain, a

(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12LL+C

13.  Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo staffLL+C

14.  Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-ddwyrain wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CIs-bwyllgorau

Is-bwyllgorauLL+C

F1015.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Is-bwyllgor Llywodraethu ac ArchwilioLL+C

16.—(1Rhaid i CBC y De-ddwyrain sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)adolygu materion ariannol CBC y De-ddwyrain a chraffu arnynt;

(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y De-ddwyrain;

(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y De-ddwyrain ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol [F11, rheoli perfformiad] a llywodraethu corfforaethol;

(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y De-ddwyrain ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

[F12(da)adolygu ac asesu gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;]

(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y De-ddwyrain;

(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y De-ddwyrain;

(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y De-ddwyrain.

[F13(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.]

(2Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau—

(a)[F14nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau] o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)[F15bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn] aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

[F16(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-ddwyrain, F17...

F17(iv). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .]

[F18(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.]

F19(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. para. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

(2)

2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill