Apelau
10.—(1) Caiff cyn-berson cofrestredig y mae gorchymyn atal dros dro interim wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef apelio yn erbyn y gorchymyn i’r Uchel Lys.
(2) Rhaid i apêl o dan baragraff (1) gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir hysbysiad o’r gorchymyn i’r cyn-berson cofrestredig.
(3) Mewn cysylltiad ag apêl o’r fath, caiff yr Uchel Lys—
(a)dirymu’r gorchymyn atal dros dro interim;
(b)amrywio’r cyfnod y mae’r gorchymyn atal dros dro interim i gael effaith ar ei gyfer;
(c)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn atal dros dro interim.
(4) Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn derfynol ac ni chaniateir apelio yn ei erbyn.