xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Darpariaeth arall ynghylch y weithdrefn i’w gwneud gan y Cyngor

18.—(1Caiff y Cyngor, fel y gwêl yn addas, wneud unrhyw ddarpariaeth arall o ran y weithdrefn iddo ei dilyn mewn cysylltiad—

(a)â phenderfyniadau i osod neu i beidio â gosod gorchymyn atal dros dro interim,

(b)ag ystyried gosod gorchymyn atal dros dro interim, neu

(c)ag adolygu, estyn a dirymu gorchymyn atal dros dro interim.

(2Caiff y Cyngor ddiwygio o bryd i’w gilydd unrhyw reolau gweithredu a wneir yn unol â’r erthygl hon.