Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021

Cyhoeddi a darparu copïau o ddogfennau

19.—(1Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan erthygl 18—

(a)ar wefan y mae’n ei chynnal ar y rhyngrwyd, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y gwêl ei fod yn addas.

(2Rhaid i’r Cyngor, pan fydd unrhyw berson yn gofyn iddo wneud hynny, ddarparu copi o unrhyw reolau gweithredu a wneir o dan erthygl 18 i’r person hwnnw.