xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hawl i ofyn am wrandawiad cyhoeddus

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y panel drafod yn breifat ar unrhyw adeg ac at unrhyw ddiben yn ystod neu ar ôl gwrandawiad.

(2Caiff person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig y mae’r gorchymyn atal dros dro interim arfaethedig yn ymwneud ag ef ofyn bod unrhyw wrandawiad yn unol ag erthygl 3 neu 12 yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.

(3Pan fo person cofrestredig neu gyn-berson cofrestredig yn gofyn bod y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, caiff y panel eithrio’r cyhoedd o wrandawiad neu unrhyw ran o wrandawiad—

(a)pan fo’n ymddangos i’r panel ei bod yn angenrheidiol eithrio’r cyhoedd er budd cyfiawnder, neu

(b)pan fo’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn buddiannau plant.