xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

(a)rheoliad 11;

(b)rheoliad 12;

(c)rheoliad 13;

(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad 11, 12 neu 13.