Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290 (Cy. 178)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r prif Reoliadau yn gymwys i gyfarfodydd gweithrediaethau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru sy’n gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau i adlewyrchu’r ffaith y gellir cynnal cyfarfodydd gweithrediaethau a’u pwyllgorau yn rhannol neu yn gyfan gwbl drwy ddulliau o bell. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau ac agendâu cyfarfodydd gweithrediaethau, adroddiadau sy’n gysylltiedig â’r cyfarfodydd hynny, datganiadau ysgrifenedig o benderfyniadau gweithrediaethau, adroddiadau a ystyrir wrth wneud penderfyniadau gweithrediaethau a phapurau cefndir gael eu cyhoeddi ar wefan awdurdod, er nad yw’n ofynnol cyhoeddi papurau cefndir ar wefan awdurdod os na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

Gwneir diwygiadau i’r darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i faterion penodol gael eu cofnodi ar ôl i benderfyniadau gweithrediaethau gael eu gwneud ac i’r ddarpariaeth a wneir i aelodau awdurdodau lleol nad ydynt yn aelodau o’r weithrediaeth gael gweld dogfennau penodol.

Diwygir darpariaethau atodol y prif Reoliadau sy’n ymwneud â chyhoeddi ac archwilio dogfennau, gan gynnwys gosod gofyniad ar awdurdodau i sefydlu cyfleusterau i aelodau o’r cyhoedd na fyddent fel arall yn gallu gwneud hynny, i weld dogfennau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau yn cyfarwyddo iddynt gael eu cyhoeddi ar wefan awdurdod neu i barhau i fod ar gael yn electronig.

Hepgorir y tramgwyddau o dan reoliad 14 o’r prif Reoliadau o rwystro hawliau i archwilio neu i gopïo o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny neu o wrthod cyflenwi copi o ddogfennau penodol o dan reoliad 13(2) o’r Rheoliadau hynny.

Gwneir darpariaeth drosiannol mewn perthynas â darpariaethau penodol yn y prif Reoliadau a addaswyd dros dro gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/442 (Cy. 100)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.