Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983; cymhwyso Deddf 2018

Dehongli rheoliadau 20 i 25 ac Atodlen 2

20.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, rheoliadau 21 i 25 ac Atodlen 2—

mae i “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yr ystyr a roddir yn rheoliad 21;

ystyr “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” (“beginning of the detention in hospital”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yw—

(a)

dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan y Rhan honno, neu

(b)

pan fo cyfnod o gadw’n gaeth mewn lle diogel yn unol â chyfarwyddydau llys o dan y Rhan honno yn union cyn y cyfnod hwnnw, dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth yn y lle diogel;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(1).

(2Mae rheoliad 2(2) yn ymdrin ag ystyr cyfeiriadau at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw.

(3At ddibenion y diffiniad o “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” ym mharagraff (1), nid yw’n berthnasol a yw’r cyfnod cadw yn unol ag un gorchymyn ai peidio.

Awdurdod lleol perthnasol

21.—(1Pan oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw awdurdod cartref y plentyn neu’r person ifanc.

(2Pan nad oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983—

(a)os oedd y plentyn neu’r person ifanc yn derbyn gofal yn union cyn dechrau’r cyfnod cadw hwnnw neu os yw wedi bod yn derbyn gofal ar unrhyw adeg ers hynny, ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc, neu sydd wedi gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ddiweddaraf;

(b)fel arall ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(3Ond nid yw awdurdod lleol yn Lloegr yn awdurdod lleol perthnasol.

(4At ddiben paragraff (1), mae’r diffiniadau o “awdurdod cartref” a “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (gweler adran 39 o Ddeddf 2018 sy’n cymhwyso ystyron a roddir yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996(2) yn ddarostyngedig, yn achos “awdurdod cartref”, i unrhyw reoliadau o dan adran 39(2)) yn gymwys fel pe bai’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gyfnod o gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(5At ddiben paragraff (2), mae plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw’r plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(3) neu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion Deddf Plant 1989(4).

(6Wrth benderfynu at ddiben paragraff (2) lle y mae plentyn neu berson ifanc yn preswylio fel arfer, mae unrhyw gyfnod pan yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw i’w ddiystyru.

Plentyn neu berson ifanc a chanddo gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

22.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal neu ei gadw ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ac unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) o Ddeddf 2018 yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3Ond nid yw’r ddyletswydd i gynnal y cynllun ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynllun a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol oni thynnir sylw’r awdurdod lleol perthnasol at y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal neu ei gadw.

(4Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.

(5Pan oedd y cynllun, yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, yn cael ei gadw o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol—

(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ei fod wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun,

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn, ac

(c)adolygu’r cynllun,

(ar gyfer pan oedd y cynllun yn cael ei gynnal gan gorff arall yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, gweler adrannau 22(2) a 23 o Ddeddf 2018 fel y’u cymhwysir gan y rheoliad hwn).

(6Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o’r cynllun yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(7Nid oes angen i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 7 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.

(8At ddibenion paragraff (6), mae adolygiad wedi ei gwblhau pan yw’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi, o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig;

(b)hysbysiad o benderfyniad na ddylid diwygio’r cynllun;

(c)hysbysiad o benderfyniad nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach;

(d)os yw’r person yn berson ifanc, hysbysiad o benderfyniad nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.

Plentyn neu berson ifanc heb gynllun datblygu unigol cyn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(b)pan fo’r plentyn yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac

(c)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y plentyn o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(2Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys—

(a)pan, ar neu ar ôl 1 Medi 2022—

(i)bo person ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,

(ii)bo’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, a

(b)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.

(3Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 (yn benodol, gweler adran 13).

Rhyddhau plentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth,

(b)pan oedd awdurdod lleol perthnasol, yn union cyn rhyddhau’r plentyn neu’r person ifanc, yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 14 o Ddeddf 2018 ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,

(c)pan fo awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, a

(d)pan na fo’r person a ryddheir, yn union wrth ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (ar gyfer pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union wrth ei ryddhau, gweler adran 35(9) a (10) o Ddeddf 2018).

(2Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno.

Plentyn neu berson ifanc yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr (ar gyfer pan fo plentyn neu berson ifanc o’r fath yn trosglwyddo i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr, gweler adran 562 o Ddeddf Addysg 1996(5) ac adran 44 o Ddeddf 2018).

(2Wrth gymhwyso’r diffiniad o “beginning of the detention” (yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996), at ddibenion adran 42 o Ddeddf 2018, nid yw’r cyfnod parhaus y cyfeirir ato yn cynnwys y cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 nac unrhyw gyfnod cyn y cyfnod hwnnw.

(1)

1983 p. 20. Mewnosododd adran 46 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997 (p. 43) adrannau 45A a 45B yn Rhan 3. Mae diwygiadau eraill i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol.

(2)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 562J gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 50. Mae diwygiadau perthnasol iddi wedi eu gwneud gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 16(1), (2) a (4).

(3)

2014 dccc 4. Mae adran 74 yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(4)

1989 p. 41. Mae adrannau 22(1) a 105(4) yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 22(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2(1) a (2) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 69(a). Amnewidiwyd adran 105(4) gan O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 106(b).

(5)

1996 p. 56. Mae adran 562 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49, O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 7(1) i (3) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 153 a 157.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill