- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
5. Nid yw plentyn i’w drin fel pe bai’n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018 os nad yw’n ofynnol, gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1) (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya), i gynllun addysg personol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 83(2A) o’r Ddeddf honno) gael ei gynnwys fel rhan o gynllun gofal a chymorth y plentyn o dan yr adran honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Yn y rheoliad hwn, rheoliadau 7 i 9 ac Atodlen 1—
ystyr “addysg bellach neu hyfforddiant” (“further education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant o’r fath, ond nid yw’n cynnwys unrhyw addysg neu hyfforddiant a geir gan berson ifanc tra bo’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (gweler rheoliad 2(2) ar gyfer pa bryd y mae person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw);
ystyr “deilliannau” (“outcomes”) yw deilliannau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gwaith, symud ymlaen i addysg arall, gan gynnwys addysg uwch, neu gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol neu sgiliau neu nodweddion defnyddiol eraill ar gyfer bod yn oedolyn;
ystyr “rhaglen astudio” (“programme of study”) yw un neu ragor o gyrsiau o addysg bellach neu hyfforddiant, pa un a yw’n arwain at gymhwyster ai peidio ac yn achos mwy nag un cwrs, pa un a yw’r cyrsiau yn cael eu dilyn yn gydredol neu’n olynol ai peidio (ond os ydynt yn cael eu dilyn yn olynol rhaid iddynt fod yn rhan o raglen astudio gyffredinol).
(2) Wrth benderfynu ar gyfnod para rhaglen astudio at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
(a)mae rhaglen astudio yn cael ei thrin fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cychwyn, neu y disgwylir iddo gychwyn, ar y rhaglen astudio ac yn dod i ben â’r diwrnod y disgwylir i’r person ei chwblhau, a
(b)os yw’r rhaglen, neu ran ohoni, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’r rhaglen, neu’r rhan honno ohoni, yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chynnal dros flwyddyn.
(3) Wrth benderfynu ar gyfnod para addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan berson ifanc at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
(a)mae’r addysg bellach neu’r hyfforddiant yn cael ei thrin neu ei drin fel pe bai wedi dechrau â diwrnod cyntaf y mis y cychwynnodd y person ifanc arni neu arno ac yn dod i ben â diwrnod olaf y mis—
(i)y cwblhaodd y person ifanc yr addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y peidiodd fel arall â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu
(ii)y disgwylir i’r person ifanc gwblhau’r addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y disgwylir fel arall iddo beidio â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;
(b)os yw’r addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu ran ohoni neu ohono, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’n cael ei thrin neu ei drin, neu mae’r rhan honno ohoni neu ohono yn cael ei thrin, fel pe bai’n cael ei chynnal neu ei gynnal dros flwyddyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 6 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018 o ran a yw cynllun datblygu unigol yn angenrheidiol ar gyfer person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)nodi deilliannau dymunol y person ifanc, os oes rhai, a
(b)ystyried pa raglenni astudio a all fod ar gael ac a fyddai’n addas i alluogi’r person ifanc i gyflawni’r deilliannau dymunol hynny.
(3) Wrth ystyried y mater ym mharagraff (2)(b)—
(a)yn gyntaf rhaid i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach;
(b)ni chaiff yr awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliadau ac eithrio’r rheini a grybwyllir ym mharagraff (7) ond pan fo’n ymddangos yn debygol na ellir diwallu anghenion rhesymol y person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddilyn rhaglen astudio addas oni bai bod yr awdurdod lleol yn sicrhau ar gyfer y person ifanc—
(i)lle mewn sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7), neu
(ii)bwyd a llety.
(4) Wrth benderfynu a yw rhaglen astudio a ddarperir gan sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7) yn addas ar gyfer person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried, yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1, a oes posibilrwydd realistig y byddai’r person ifanc yn cyflawni deilliannau dymunol y person drwy ddilyn y rhaglen astudio neu drwy barhau i ddilyn y rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig).
(5) Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn rhaglen astudio, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio eraill os yw wedi ei fodloni bod y rhaglen y mae’r person ifanc yn ei dilyn yn parhau i fod yn addas, neu y byddai’n addas gydag addasiadau, i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person.
(6) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff (2) neu unrhyw ran ohono, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai cydymffurfio ag ef, neu â’r rhan honno ohono, yn effeithio ar ei benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018.
(7) Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn unrhyw un o’r sefydliadau a ganlyn, neu pan fo’r person ifanc i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, i ddilyn rhaglen astudio, neu i barhau i ddilyn rhaglen astudio, i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc—
(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr;
(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr;
(c)Academi.
(8) Mae rheoliad 9 yn gymwys i bob achos arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 7 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.
(2) Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.
(3) Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—
(a)yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(4) Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.
(5) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—
(a)os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
(b)os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
(6) Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.
(7) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 8 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan na fo’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn, neu barhau i’w dilyn, ynghyd ag unrhyw addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan y person ifanc, yn para am fwy na 2 flynedd.
(2) Caiff yr awdurdod lleol benderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 6(1) o Atodlen 1 yn gymwys.
(3) At ddibenion penderfynu a oes gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan baragraff (2), mae paragraffau 3(2), 4(2), 5(2) a 6(2) o Atodlen 1 yn nodi’r priod ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried ar gyfer pob un o’r amgylchiadau sy’n gymwys.
(4) At ddibenion adran 31(6)(b) o Ddeddf 2018, mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan fo’r person ifanc yn dilyn rhaglen astudio addas yn unol â phenderfyniad o dan baragraff (2).
(5) Pan fo gan y person ifanc anghenion rhesymol, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol, am addysg neu hyfforddiant o dan y rheoliad hwn—
(a)at ddibenion adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, pe bai’n llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno;
(b)at ddibenion adran 31(6)(b) o’r Ddeddf honno, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol y person ifanc os yw’r awdurdod lleol o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno.
(6) Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 9 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person ifanc am—
(a)y penderfyniad, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2), yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad o dan adran 13(1) o Ddeddf 2018 gael ei wneud.
(4) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
(5) Wrth roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol hefyd roi i’r person ifanc—
(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol;
(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;
(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;
(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 70 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 10 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).
(2) Mae’r cyfnod rhagnodedig—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 11 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 32(1)(b) o Ddeddf 2018 (ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31)—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) o’r Ddeddf honno, a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd 4 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(2) Pan fo’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) yn cael eu rhoi ar ddiwrnodau gwahanol (pa un ai oherwydd eu bod yn cael eu rhoi i bersonau gwahanol ar ddiwrnodau gwahanol neu eu rhoi o dan bob is-adran ar ddiwrnodau gwahanol), mae’r cyfeiriad ym mharagraff (1)(a) at y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau yn gyfeiriad at yr hwyrach o’r diwrnodau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 12 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Rhaid i gais gan awdurdod lleol o dan adran 36(2) o Ddeddf 2018 fod corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad—
(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig, a
(b)dod gyda chopi o’r cynllun, oni bai bod gan y corff llywodraethu gopi ohono eisoes.
(2) Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 36(3) o Ddeddf 2018 (y cyfnod y caiff awdurdod lleol atgyfeirio mater at Weinidogion Cymru ar ei ôl)—
(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael y cais o dan adran 36(2), a
(b)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 20 niwrnod amser tymor sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Pan fo corff llywodraethu yn cytuno i gais awdurdod lleol o dan adran 36(2)—
(a)rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am ei gytundeb, a
(b)mae’n dod yn gyfrifol am y cynllun o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018—
(i)ar y diwrnod y cytunir arno rhwng y corff llywodraethu a’r awdurdod i’r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo;
(ii)fel arall ar y diwrnod y mae’r awdurdod yn cael cytundeb ysgrifenedig y corff llywodraethu i’r cais.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “diwrnod amser tymor” mewn perthynas â sefydliad yn y sector addysg bellach yw diwrnod y mae’r sefydliad i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod amser y mae’r sefydliad yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 13 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
14.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag atgyfeiriad o dan adran 36 o Ddeddf 2018 gan awdurdod lleol at Weinidogion Cymru am benderfyniad o ran a ddylai corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.
(2) Rhaid i’r atgyfeiriad—
(a)cael ei wneud o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir gan reoliad 13(2),
(b)cael ei wneud yn ysgrifenedig,
(c)dod gyda chopi o’r adrannau o’r cynllun datblygu unigol sy’n cynnwys y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc a’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, a
(d)dod gyda chopi o unrhyw wybodaeth arall yn y cynllun datblygu unigol y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i benderfynu ar y mater.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc a’r corff llywodraethu am yr atgyfeiriad a gwahodd sylwadau.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person ifanc, yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu am—
(a)eu penderfyniad o dan adran 36(4) o Ddeddf 2018, a
(b)y rhesymau dros y penderfyniad.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, mae dyletswydd y corff llywodraethu i’w gynnal o dan adran 12(4) o Ddeddf 2018 yn cymryd effaith—
(a)ar y diwrnod y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad o dan baragraff (4);
(b)fel arall ar y diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn cael yr hysbysiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 14 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu arall neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”);
(b)byddai awdurdod lleol (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 am gynnal neu gadw cynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw yn flaenorol o dan y Rhan honno gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol arall (“yr hen gorff”) oni bai am ddiffyg gwybodaeth y corff newydd am yr amgylchiadau sy’n arwain at ei gyfrifoldeb am y cynllun (gweler adrannau 30(5) a 42(5) o Ddeddf 2018 a rheoliad 22(3));
(c)mae corff llywodraethu ysgol a gynhelir (“y corff newydd”) yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol yn rhinwedd bod awdurdod lleol (“yr hen gorff”) yn cyfarwyddo’r corff llywodraethu o dan adran 14(2)(b)(i) neu (4) o Ddeddf 2018.
(2) Rhaid i’r hen gorff roi copi o’r cynllun i’r corff newydd oni bai bod gan y corff newydd gopi ohono eisoes.
(3) Ond pan na fo’r hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau sy’n arwain at drosglwyddo cyfrifoldeb am y cynllun, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (2) yn gymwys hyd nes bod yr hen gorff yn ymwybodol o’r amgylchiadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 15 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(10) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol (“y trosglwyddiad”);
(b)mae awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol, yn rhinwedd adran 35(12) a (13) o Ddeddf 2018, am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd wedi peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (“y trosglwyddiad”).
(2) At ddibenion penderfynu ar y cyfnod adolygu y mae rhaid i’r awdurdod lleol, o dan adran 24(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) neu 23(1) (ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(b)) o Ddeddf 2018, adolygu’r cynllun yn gyntaf ynddo yn dilyn y trosglwyddiad, mae adrannau 23 a 24 o’r Ddeddf honno yn gymwys (er gwaethaf adran 23(12) ar gyfer achos o fewn paragraff (1)(a)) fel yr oeddent yn union cyn y trosglwyddiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 16 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys—
(a)pan fo awdurdod lleol, yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 35 o Ddeddf 2018, o dan ddyletswydd i sicrhau lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 19(4) o’r Ddeddf honno, a
(b)pan na fo, yng ngoleuni’r amgylchiadau sydd wedi arwain at y trosglwyddiad, yn ymarferol mwyach i’r plentyn neu’r person ifanc fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall.
(2) Nid yw dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau’r lle yn yr ysgol neu’r sefydliad arall yn gymwys hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun ac eithrio pan fo’r awdurdod yn trefnu bwyd a llety o dan baragraff (3).
(3) Caiff yr awdurdod lleol drefnu bwyd a llety er mwyn galluogi’r plentyn neu’r person ifanc i barhau i fynychu’r ysgol neu’r sefydliad arall hyd nes ei bod yn bosibl diwygio’r cynllun datblygu unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 17 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddiben penderfyniad awdurdod cartref o dan adran 40(2)(b) o Ddeddf 2018.
(2) Mae angen llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac eithrio—
(a)pan fo’n debygol y bydd y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi cyrraedd 25 oed cyn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, neu
(b)pan fo’n annhebygol, yn achos person ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth, y bydd gan y person anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan gaiff ei ryddhau.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b), mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan bob un o’r amgylchiadau a ganlyn—
(a)mae’r person ifanc wedi ei gofrestru’n ddisgybl neu wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn ysgol a gynhelir, sefydliad yn y sector addysg bellach neu Academi (pa un a yw’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);
(b)mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan reoliad 9(1);
(c)mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan reoliad 9(2) fod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.
(4) Pan fo’r awdurdod cartref yn penderfynu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person hwnnw ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth, rhaid i’r awdurdod cartref wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad ohono o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018 yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod—
(a)yn achos plentyn, y tynnwyd sylw’r awdurdod cartref, neu yr ymddangosai i’r awdurdod cartref fel arall, y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol;
(b)yn achos person ifanc, y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad gael ei wneud o ran a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.
(5) Nid oes angen i’r awdurdod cartref gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad hwnnw a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
(6) Wrth hysbysu person sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac os yw’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn blentyn, riant y plentyn, o dan adran 40(4) o Ddeddf 2018, na fydd angen cynllun datblygu unigol, rhaid i’r awdurdod cartref hefyd roi—
(a)manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod cartref;
(b)gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod cartref o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
(c)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;
(d)manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod cartref ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;
(e)gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 72 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 18 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Mae adran 44 o Ddeddf 2018 (darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (1), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(d)corff GIG.”;
(b)yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“(da)adran 20(5)(a) ac (c) (dyletswydd corff GIG i sicrhau triniaeth neu wasanaeth ac i gymryd pob cam rhesymol i’w sicrhau yn Gymraeg);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 19 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
20.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, rheoliadau 21 i 25 ac Atodlen 2—
mae i “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yr ystyr a roddir yn rheoliad 21;
ystyr “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” (“beginning of the detention in hospital”) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yw—
dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan y Rhan honno, neu
pan fo cyfnod o gadw’n gaeth mewn lle diogel yn unol â chyfarwyddydau llys o dan y Rhan honno yn union cyn y cyfnod hwnnw, dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth yn y lle diogel;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(2).
(2) Mae rheoliad 2(2) yn ymdrin ag ystyr cyfeiriadau at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw.
(3) At ddibenion y diffiniad o “dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty” ym mharagraff (1), nid yw’n berthnasol a yw’r cyfnod cadw yn unol ag un gorchymyn ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 20 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
21.—(1) Pan oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ystyr “yr awdurdod lleol perthnasol” yw awdurdod cartref y plentyn neu’r person ifanc.
(2) Pan nad oedd y plentyn neu’r person ifanc yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r plentyn neu’r person ifanc yn gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983—
(a)os oedd y plentyn neu’r person ifanc yn derbyn gofal yn union cyn dechrau’r cyfnod cadw hwnnw neu os yw wedi bod yn derbyn gofal ar unrhyw adeg ers hynny, ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol yng Nghymru neu Loegr sy’n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc, neu sydd wedi gofalu am y plentyn neu’r person ifanc ddiweddaraf;
(b)fel arall ystyr yr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
(3) Ond nid yw awdurdod lleol yn Lloegr yn awdurdod lleol perthnasol.
(4) At ddiben paragraff (1), mae’r diffiniadau o “awdurdod cartref” a “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (gweler adran 39 o Ddeddf 2018 sy’n cymhwyso ystyron a roddir yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996(3) yn ddarostyngedig, yn achos “awdurdod cartref”, i unrhyw reoliadau o dan adran 39(2)) yn gymwys fel pe bai’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gyfnod o gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.
(5) At ddiben paragraff (2), mae plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw’r plentyn neu berson ifanc yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(4) neu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion Deddf Plant 1989(5).
(6) Wrth benderfynu at ddiben paragraff (2) lle y mae plentyn neu berson ifanc yn preswylio fel arfer, mae unrhyw gyfnod pan yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw i’w ddiystyru.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 21 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo plentyn neu berson ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,
(b)pan fo’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac
(c)pan oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal neu ei gadw ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno, ac unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) o Ddeddf 2018 yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).
(3) Ond nid yw’r ddyletswydd i gynnal y cynllun ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chynllun a oedd yn cael ei gynnal neu ei gadw gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol oni thynnir sylw’r awdurdod lleol perthnasol at y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal neu ei gadw.
(4) Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983.
(5) Pan oedd y cynllun, yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, yn cael ei gadw o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol—
(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ei fod wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun,
(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn, ac
(c)adolygu’r cynllun,
(ar gyfer pan oedd y cynllun yn cael ei gynnal gan gorff arall yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty, gweler adrannau 22(2) a 23 o Ddeddf 2018 fel y’u cymhwysir gan y rheoliad hwn).
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o’r cynllun yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(7) Nid oes angen i’r awdurdod lleol perthnasol gwblhau’r adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 7 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod.
(8) At ddibenion paragraff (6), mae adolygiad wedi ei gwblhau pan yw’r awdurdod lleol perthnasol yn rhoi, o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig;
(b)hysbysiad o benderfyniad na ddylid diwygio’r cynllun;
(c)hysbysiad o benderfyniad nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach;
(d)os yw’r person yn berson ifanc, hysbysiad o benderfyniad nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 22 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
23.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,
(b)pan fo’r plentyn yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, ac
(c)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y plentyn o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(2) Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys—
(a)pan, ar neu ar ôl 1 Medi 2022—
(i)bo person ifanc yn ddarostyngedig i orchymyn cadw,
(ii)bo’r person ifanc yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983, a
(b)pan nad oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal na’i gadw ar gyfer y person ifanc o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty.
(3) Mae Deddf 2018 a darpariaethau eraill o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (gan gynnwys y Rheoliadau hyn) yn gymwys gyda’r addasiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 2 mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 (yn benodol, gweler adran 13).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 23 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac yn cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 yn cael ei ryddhau o gael ei gadw’n gaeth,
(b)pan oedd awdurdod lleol perthnasol, yn union cyn rhyddhau’r plentyn neu’r person ifanc, yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 14 o Ddeddf 2018 ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,
(c)pan fo awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, a
(d)pan na fo’r person a ryddheir, yn union wrth ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (ar gyfer pan fo plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn union wrth ei ryddhau, gweler adran 35(9) a (10) o Ddeddf 2018).
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 o Ddeddf 2018 at ddibenion Rhan 2 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 24 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo plentyn neu berson ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw yn trosglwyddo o gael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr (ar gyfer pan fo plentyn neu berson ifanc o’r fath yn trosglwyddo i gael ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu Loegr, gweler adran 562 o Ddeddf Addysg 1996(6) ac adran 44 o Ddeddf 2018).
(2) Wrth gymhwyso’r diffiniad o “beginning of the detention” (yn adran 562J o Ddeddf Addysg 1996), at ddibenion adran 42 o Ddeddf 2018, nid yw’r cyfnod parhaus y cyfeirir ato yn cynnwys y cyfnod o gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf 1983 nac unrhyw gyfnod cyn y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 25 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
2014 dccc 4. Mewnosodwyd adran 83(2A), a diwygiwyd adran 83 yn fwy cyffredinol, gan adran 16 o Ddeddf 2018.
1983 p. 20. Mewnosododd adran 46 o Ddeddf (Dedfrydau) Troseddau 1997 (p. 43) adrannau 45A a 45B yn Rhan 3. Mae diwygiadau eraill i Ran 3 nad ydynt yn berthnasol.
1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 562J gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 50. Mae diwygiadau perthnasol iddi wedi eu gwneud gan O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 16(1), (2) a (4).
2014 dccc 4. Mae adran 74 yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
1989 p. 41. Mae adrannau 22(1) a 105(4) yn darparu ar gyfer dehongli cyfeiriadau at blentyn sy’n derbyn gofal. Mae adran 22(1) wedi ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2(1) a (2) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 69(a). Amnewidiwyd adran 105(4) gan O.S. 2016/413, rheoliadau 55 a 106(b).
1996 p. 56. Mae adran 562 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49, O.S. 2010/1158, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 7(1) i (3) ac O.S. 2016/413, rheoliadau 153 a 157.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys