xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Nwyddau a gwasanaethauLL+C

Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

32.—(1Caiff awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan honno,

ar yr amod bod y nwyddau hynny neu’r gwasanaethau hynny yn cael eu cyflenwi at ddiben arfer y swyddogaethau hynny neu wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, yn ôl y digwydd.

(2Caiff y telerau a’r amodau y mae awdurdod lleol yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau arnynt o dan baragraff (1) gynnwys telerau ac amodau o ran talu a chânt fod yn wahanol ar gyfer personau gwahanol neu ar achlysuron gwahanol.

(3Ond rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau na fyddai unrhyw delerau ac amodau o ran talu, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, yn arwain at daliadau i’r awdurdod sy’n uwch na’r gost resymol iddo o gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 32 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)