Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021

RHAN 3LL+CSWYDDOGAETHAU ATODOL

Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegolLL+C

Dehongli rheoliadau 26 i 30LL+C

26.  Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 27 i 30—

ystyr “athro neu athrawes addysg bellach” (“further education teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori athro neu athrawes ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ac nid yw’n cynnwys person sydd wedi ei gofrestru ar sail dros dro o dan adran 9(5) o’r Ddeddf honno;

ystyr “cydlynydd anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs co-ordinator”) yw person sydd â chyfrifoldeb am gydlynu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y nodir bod ganddynt anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996(1);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(2);

ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) yw—

(a)

cyngor neu gymorth mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol,

(b)

rheoli darpariaeth ddysgu ychwanegol,

(c)

asesu anghenion dysgu ychwanegol,

(d)

cyngor neu gymorth mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(e)

rheoli disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol;

(f)

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” (“further education learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014;

ystyr “gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” (“school learning support worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yng nghategori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol fel y’i disgrifir yn nhabl 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 26 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyster neu brofiad rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolLL+C

27.  Ni chaiff corff llywodraethu ysgol ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw—

(a)yn athro neu athrawes ysgol, neu

(b)yn gydlynydd anghenion addysgol arbennig o fewn yr ysgol yn union cyn 4 Ionawr 2021(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 27 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyster rhagnodedig cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellachLL+C

28.  Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach ddynodi person yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol o dan adran 60(2) o Ddeddf 2018 ond os yw’r person hwnnw yn athro neu athrawes addysg bellach.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 28 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolLL+C

29.  Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—

(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol disgybl a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgybl,

(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol disgybl fel y bo’n ofynnol,

(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,

(d)hybu cynhwysiant disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol,

(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,

(f)cynghori’r athrawon ysgol yn yr ysgol ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer disgyblion unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,

(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(h)cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd ar gyfer athrawon ysgol yn yr ysgol er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 29 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Swyddogaethau cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellachLL+C

30.  Y tasgau y mae cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfrifol am eu cyflawni, neu am sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yw—

(a)nodi anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr a chydlynu’r gwaith o wneud darpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n diwallu anghenion dysgu ychwanegol myfyriwr,

(b)sicrhau gwasanaethau perthnasol a fydd yn cefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol myfyriwr fel y bo’n ofynnol,

(c)cadw cofnodion o benderfyniadau ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a chynlluniau datblygu unigol,

(d)hybu cynhwysiant myfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol yn y sefydliad yn y sector addysg bellach a’i fynediad at gwricwlwm, cyfleusterau a gweithgareddau allgyrsiol y sefydliad yn y sector addysg bellach,

(e)monitro effeithiolrwydd unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir,

(f)cynghori’r athrawon yn y sefydliad yn y sector addysg bellach ynghylch y dulliau addysgu gwahaniaethol sy’n briodol ar gyfer myfyrwyr unigol ag anghenion dysgu ychwanegol,

(g)goruchwylio a hyfforddi gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, ac

(h)cyfrannu at hyfforddiant ar gyfer athrawon addysg bellach yn y sefydliad yn y sector addysg bellach er mwyn cynorthwyo’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol i gyflawni’r tasgau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (e).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 30 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais adran 65LL+C

Terfyn amser ar gyfer cydymffurfio â chais awdurdod lleol am wybodaeth neu help arallLL+C

31.—(1Rhaid i berson sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais awdurdod lleol o dan adran 65 o Ddeddf 2018 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall) gydymffurfio â’r cais yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).

(2Mae’r cyfnod rhagnodedig—

(a)yn dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn cael y cais, a

(b)yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Nid oes angen i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2)—

(a)os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y person, neu

(b)os nad yw’r cais yn ymwneud ag arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc penodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 31 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Nwyddau a gwasanaethauLL+C

Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

32.—(1Caiff awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 2018, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan honno,

ar yr amod bod y nwyddau hynny neu’r gwasanaethau hynny yn cael eu cyflenwi at ddiben arfer y swyddogaethau hynny neu wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, yn ôl y digwydd.

(2Caiff y telerau a’r amodau y mae awdurdod lleol yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau arnynt o dan baragraff (1) gynnwys telerau ac amodau o ran talu a chânt fod yn wahanol ar gyfer personau gwahanol neu ar achlysuron gwahanol.

(3Ond rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau na fyddai unrhyw delerau ac amodau o ran talu, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, yn arwain at daliadau i’r awdurdod sy’n uwch na’r gost resymol iddo o gyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaethau y gwneir y taliadau mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 32 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau a gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

Diwygio adran 68 o Ddeddf 2018LL+C

33.  Yn adran 68(8) o Ddeddf 2018 (trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau), ar ôl “ardal” mewnosoder “a phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth y mae’r awdurdod lleol hwnnw yn awdurdod cartref iddynt”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 33 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)

(3)

Daeth Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1351 (Cy. 299)) i rym ar 4 Ionawr 2021.