xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Apelau

Apelau

23.—(1Caiff unrhyw weithredwr sydd wedi ei dramgwyddo gan benderfyniad gan awdurdod lleol i wrthod rhoi neu adnewyddu trwydded, neu’r penderfyniad i ddirymu trwydded, apelio i lys ynadon.

(2Mae’r weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achos.

(3Y cyfnod pan ganiateir dwyn apêl yw 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod drannoeth y dyddiad y cyflwynir hysbysiad am y penderfyniad.