Rheoliad 6K newydd
7. Ar ôl rheoliad 6J (codi tâl am brofion) mewnosoder—
“Profi’r gweithlu
6K.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”), a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.
(2) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2, diwrnod 5 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (6) mewn perthynas â phob categori o brawf.
(3) Pan na fo P yn cymryd prawf gweithlu fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall.
(4) Pan fo prawf gweithlu arall wedi ei gymryd yn lle—
(a)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;
(b)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 5 yn unol â’r rheoliad hwn;
(c)prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf gweithlu ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.
(5) Mae Atodlen 2D yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch profion gweithlu (gan gynnwys goblygiadau profi).
(6) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “prawf gweithlu arall” yw prawf gweithlu sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf gweithlu nas cynhaliwyd;
(b)ystyr “prawf gweithlu” yw prawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006();
(c)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2” yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(d)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 5” yw prawf gweithlu—
(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2,
(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd y pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
(e)ystyr “prawf gweithlu sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8” yw prawf gweithlu—
(i)sy’n cael ei gymryd ar ôl prawf gweithlu sy’n cael ei gymryd ar gyfer diwrnod 5,
(ii)sy’n cael ei gymryd yn ddim cynharach na diwedd y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
(iii)sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.”