xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Diwygiadau eraill i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegu gwledydd at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol

4.  Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—

Ariannin

Brasil

Bolivia

Chile

Colombia

Ecuador

Guiana Ffrengig

Guyana

Gweriniaeth Cabo Verde

Gweriniaeth Panamá

Paraguay

Periw

Portiwgal

Suriname

Uruguay

Venezuela.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4

5.  Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Diwygio rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

6.  Yn rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—

(a)mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),

(b)bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.

Diwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

7.  Ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, hepgorer “yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007”.