xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CAtebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

DehongliLL+C

4.  Yn y Rhan hon—

ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) [F1, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;

[F2ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)

enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,

(b)

dyddiad geni neu oed y person hwnnw,

(c)

canlyniad negyddol y prawf hwnnw,

(d)

y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,

(e)

[F3datganiad—

(i)

bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)

o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,

(f)

enw darparwr y prawf;]]

[F4ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws]

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) [F5, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw]

(c)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(2);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;

F6...

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(3);

ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;

[F7ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—

(a)

teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—

(i)

â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(ii)

â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(b)

teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;]

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—

(a)

sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(4).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddolLL+C

5.—(1Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad gofynnol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—

(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol neu fod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw;

(b)sy’n blentyn, sy’n teithio heb unigolyn cyfrifol; neu

(c)sy’n deithiwr tramwy, sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig ac nad oes ganddo’r hawl i ddod i’r wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd wedi cyrraedd y wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni gyda’r bwriad o fynd drwyddi i Gymru heb fynd i’r wlad honno neu’r diriogaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 5 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

[F8Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraeddLL+C

5A.(1) Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—

(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) neu bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu

(b)sy’n blentyn, yn teithio heb unigolyn cyfrifol.

Gofyniad i sicrhau nad yw teithwyr penodol yn cyrraedd porthladdoedd yng NghymruLL+C

5B.(1) Rhaid i weithredwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw teithiwr Atodlen 3A yn cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth trafnidiaeth perthnasol.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)pan fo’n angenrheidiol i beilot sydd â rheolaeth o awyren lanio’r awyren sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau—

(i)diogelwch yr awyren, neu

(ii)diogelwch unrhyw berson sydd ar yr awyren;

(b)pan fo awyren yn ambiwlans awyr ac yn glanio yng Nghymru at ddibenion cludo person i gael triniaeth feddygol;

(c)pan fo’r peilot sydd â rheolaeth o awyren yn cael cyfarwyddyd gan berson awdurdodedig i lanio’r awyren yng Nghymru.

(3) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth” (“transport service”) yw—

(a)

gwasanaeth teithwyr rhyngwladol,

(b)

gwasanaeth (ac eithrio gwasanaeth teithwyr rhyngwladol)—

(i)

sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a

(ii)

a ddarperir gan awyren (ac eithrio awyren breifat), neu

(c)

hediad —

(i)

sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a

(ii)

a ddarperir gan awyren breifat;

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth perthnasol” (“relevant transport service”), mewn perthynas â gweithredwr, yw gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan y gweithredwr hwnnw neu ar ei ran;

mae i “gweithredwr”, mewn perthynas â gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan awyren, yr ystyr a roddir i “operator” yn erthygl 4 o Orchymyn Llywio Awyr 2016;

mae i “peilot sydd â rheolaeth” ac “awyren breifat” yr ystyron a roddir i “pilot in command” a “private aircraft” yng Ngorchymyn Llywio Awyr 2016 (gweler Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw);

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

cwnstabl,

(b)

yr Awdurdod Hedfan Sifil,

(c)

yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

(d)

person a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016(1);

ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo.]

TroseddauLL+C

6.[F9(1) Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad yn—

(a)rheoliad 5(1),

(b)rheoliad 5A(1), neu

(c)rheoliad5B(1),

yn cyflawni trosedd.]

(2Mae trosedd o dan baragraff (1) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.

(3Mewn perthynas â’r drosedd ym mharagraff [F10(1)(a)], mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos bod y teithiwr perthnasol wedi dangos dogfen sy’n honni ei bod yn hysbysiad gofynnol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn hysbysiad gofynnol.

[F11(4) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(b), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd a ddarparwyd mewn cysylltiad â theithiwr perthnasol yn ffug neu’n anghywir mewn unrhyw fodd.

(5) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(c), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod teithiwr perthnasol yn deithiwr Atodlen 3A.]

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

7.—(1Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw weithredwr y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r gweithredwr y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru; neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3Pan ddyroddir hysbysiad i weithredwr o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dilyn y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r gweithredwr o’r drosedd os yw’r gweithredwr yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr perthnasol;

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r cosb benodedig iddo neu y mae tystiolaeth o’r amddiffyniad i’w darparu iddo; ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5Swm yr hysbysiad cosb benodedig at ddibenion paragraff (4)(c) yw £1,000.

(6Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 7 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

ErlynLL+C

8.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 6(1) ond gan berson awdurdodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 8 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaethLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson (“P”) sy’n dal gwybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud â theithiwr perthnasol (“gwybodaeth berthnasol”).

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)gwybodaeth a ddarparwyd gan y teithiwr perthnasol neu ar ei ran fel esboniad am fethu â chydymffurfio â rheoliad [F126A, 6B neu 12E(1)] o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,

(b)gwybodaeth am y camau a gymerwyd, yn unol â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewn perthynas â’r teithiwr perthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny,

(c)manylion personol y teithiwr perthnasol, gan gynnwys ei—

(i)enw llawn,

(ii)dyddiad geni,

(iii)rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi,

(iv)cyfeiriad cartref,

(v)rhif ffôn,

(vi)cyfeiriad e-bost,

(d)manylion taith y teithiwr perthnasol, gan gynnwys—

(i)yr amser a’r dyddiad y cyrhaeddodd Gymru,

(ii)enw gweithredwr y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol y cyrhaeddodd arno neu yr archebwyd ei daith drwyddo,

(iii)rhif yr hediad neu enw’r llestr,

(iv)lleoliadau ymadael a chyrraedd y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol.

(3Ni chaiff P ddefnyddio gwybodaeth berthnasol ond pan fo’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(4Ni chaiff P ddatgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (“y derbynnydd”) ond pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth berthnasol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.

(6Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(5).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 9 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

AdolyguLL+C

10.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofyniad a osodir gan [F13reoliadau 5, 5A a 5B] o’r Rheoliadau hyn erbyn 8 Chwefror 2021 ac o leiaf unwaith bob 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 10 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dod i benLL+C

11.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd 7 Mehefin 2021.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 11 mewn grym ar 18.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

(1)

O.S. 2002/618, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).

(3)

1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.