Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 14/07/2021
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/05/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
4. Yn y Rhan hon—
ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) [F1, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;
[F2ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—
enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,
dyddiad geni neu oed y person hwnnw,
canlyniad negyddol y prawf hwnnw,
y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,
[F3datganiad—
bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu
o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,
enw darparwr y prawf;]]
[F4ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â [F5rheoliad 6AB] o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws]
ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) [F6, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw] —
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(2);
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;
F7...
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(3);
ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;
[F8ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—
teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—
â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu
teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;]
ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—
sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(4).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(c)
F2Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (23.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/72), rhlau. 1(2), 4(2)(c)
F3Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (13.3.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/305), rhlau. 1(2), 9
F4Geiriau yn rhl. 4 wedi eu mewnosod (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(b)
F5Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (17.5.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (dirymwyd) (O.S. 2021/584), rhlau. 1(2), 17
F6Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(a)
F7Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hepgor (23.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/72), rhlau. 1(2), 4(2)(a)
F8Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(2)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
5.—(1) Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad gofynnol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—
(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol neu fod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw;
(b)sy’n blentyn, sy’n teithio heb unigolyn cyfrifol; neu
(c)sy’n deithiwr tramwy, sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig ac nad oes ganddo’r hawl i ddod i’r wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd wedi cyrraedd y wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni gyda’r bwriad o fynd drwyddi i Gymru heb fynd i’r wlad honno neu’r diriogaeth honno.
5A.—(1) Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—
(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad yn [F10rheoliad 6AB] o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol [F11(gofyniad i archebu a chymryd profion)] neu bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu
(b)sy’n blentyn, yn teithio heb unigolyn cyfrifol.
Diwygiadau Testunol
F9Rhlau. 5A, 5B wedi eu mewnosod (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(3)
F10Geiriau yn rhl. 5A(2)(a) wedi eu hamnewid (17.5.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (dirymwyd) (O.S. 2021/584), rhlau. 1(2), 18(a)
F11Geiriau yn rhl. 5A(2)(a) wedi eu hamnewid (17.5.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (dirymwyd) (O.S. 2021/584), rhlau. 1(2), 18(b)
5B.—(1) Rhaid i weithredwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw teithiwr Atodlen 3A yn cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth trafnidiaeth perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)pan fo’n angenrheidiol i beilot sydd â rheolaeth o awyren lanio’r awyren sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau—
(i)diogelwch yr awyren, neu
(ii)diogelwch unrhyw berson sydd ar yr awyren;
(b)pan fo awyren yn ambiwlans awyr ac yn glanio yng Nghymru at ddibenion cludo person i gael triniaeth feddygol;
(c)pan fo’r peilot sydd â rheolaeth o awyren yn cael cyfarwyddyd gan berson awdurdodedig i lanio’r awyren yng Nghymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth” (“transport service”) yw—
gwasanaeth teithwyr rhyngwladol,
gwasanaeth (ac eithrio gwasanaeth teithwyr rhyngwladol)—
sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
a ddarperir gan awyren (ac eithrio awyren breifat), neu
hediad —
sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a
a ddarperir gan awyren breifat;
ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth perthnasol” (“relevant transport service”), mewn perthynas â gweithredwr, yw gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan y gweithredwr hwnnw neu ar ei ran;
mae i “gweithredwr”, mewn perthynas â gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan awyren, yr ystyr a roddir i “operator” yn erthygl 4 o Orchymyn Llywio Awyr 2016;
mae i “peilot sydd â rheolaeth” ac “awyren breifat” yr ystyron a roddir i “pilot in command” a “private aircraft” yng Ngorchymyn Llywio Awyr 2016 (gweler Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw);
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
cwnstabl,
yr Awdurdod Hedfan Sifil,
yr Ysgrifennydd Gwladol, neu
person a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016(1);
ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo.]
Diwygiadau Testunol
F9Rhlau. 5A, 5B wedi eu mewnosod (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(3)
6.—[F12(1) Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad yn—
(a)rheoliad 5(1),
(b)rheoliad 5A(1), neu
(c)rheoliad5B(1),
yn cyflawni trosedd.]
(2) Mae trosedd o dan baragraff (1) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.
(3) Mewn perthynas â’r drosedd ym mharagraff [F13(1)(a)], mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos bod y teithiwr perthnasol wedi dangos dogfen sy’n honni ei bod yn hysbysiad gofynnol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn hysbysiad gofynnol.
[F14(4) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(b), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd a ddarparwyd mewn cysylltiad â theithiwr perthnasol yn ffug neu’n anghywir mewn unrhyw fodd.
(5) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(c), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod teithiwr perthnasol yn deithiwr Atodlen 3A.]
Diwygiadau Testunol
F12Rhl. 6(1) wedi ei amnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(4)(a)
F13Gair yn rhl. 6(3) wedi ei amnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(4)(b)
F14Rhl. 6(4)(5) wedi ei fewnosod (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(4)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
7.—(1) Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw weithredwr y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r gweithredwr y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)Gweinidogion Cymru; neu
(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(3) Pan ddyroddir hysbysiad i weithredwr o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dilyn y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r gweithredwr o’r drosedd os yw’r gweithredwr yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr perthnasol;
(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r cosb benodedig iddo neu y mae tystiolaeth o’r amddiffyniad i’w darparu iddo; ac
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(5) Swm yr hysbysiad cosb benodedig at ddibenion paragraff (4)(c) yw £1,000.
(6) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
8. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 6(1) ond gan berson awdurdodedig.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson (“P”) sy’n dal gwybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud â theithiwr perthnasol (“gwybodaeth berthnasol”).
(2) Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a)gwybodaeth a ddarparwyd gan y teithiwr perthnasol neu ar ei ran fel esboniad am fethu â chydymffurfio â rheoliad [F156A, [F166AB] neu 12E(1)] o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,
(b)gwybodaeth am y camau a gymerwyd, yn unol â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewn perthynas â’r teithiwr perthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny,
(c)manylion personol y teithiwr perthnasol, gan gynnwys ei—
(i)enw llawn,
(ii)dyddiad geni,
(iii)rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi,
(iv)cyfeiriad cartref,
(v)rhif ffôn,
(vi)cyfeiriad e-bost,
(d)manylion taith y teithiwr perthnasol, gan gynnwys—
(i)yr amser a’r dyddiad y cyrhaeddodd Gymru,
(ii)enw gweithredwr y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol y cyrhaeddodd arno neu yr archebwyd ei daith drwyddo,
(iii)rhif yr hediad neu enw’r llestr,
(iv)lleoliadau ymadael a chyrraedd y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol.
(3) Ni chaiff P ddefnyddio gwybodaeth berthnasol ond pan fo’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Ni chaiff P ddatgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (“y derbynnydd”) ond pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth berthnasol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.
(6) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(5).
Diwygiadau Testunol
F15Geiriau yn rhl. 9(2)(a) wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(5)
F16Gair yn rhl. 9(2)(a) wedi ei amnewid (17.5.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021 (dirymwyd) (O.S. 2021/584), rhlau. 1(2), 19
Gwybodaeth Cychwyn
10. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofyniad a osodir gan [F17reoliadau 5, 5A a 5B] o’r Rheoliadau hyn erbyn 8 Chwefror 2021 ac o leiaf unwaith bob 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F17Geiriau yn rhl. 10 wedi eu hamnewid (20.2.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/171), rhlau. 1(2), 3(6)
Gwybodaeth Cychwyn
11.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd [F1831 Mai 2022].
(2) Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Diwygiadau Testunol
F18Geiriau yn rhl. 11(1) wedi eu hamnewid (29.5.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/646), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
O.S. 2002/618, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).
1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys