xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

114.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

115.  Yn rheoliad 9 (myfyrwyr cymwys), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—

(a)os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir—

(i)ym mharagraff 1, 2, 2ZA, 2ZB, 3, 4A, 5A, 6A, 6B, 6C, 6D, 7A neu 8A o Atodlen 2, neu

(ii)ym mharagraff 4, 5, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 pan fo paragraff (1A) yn gymwys,

ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau yn rheoliad 10 yn gymwys i’r person, neu

(b)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir yn rheoliad 11.

(1A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

(i)pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 4, 5, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu

(ii)pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a

(b)pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

(i)y cwrs hwnnw,

(ii)cwrs penben sy’n dilyn ymlaen o’r cwrs hwnnw, neu

(ii)cwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn.

116.  Yn rheoliad 10(1) (myfyrwyr cymwys – eithriadau), ar y diwedd mewnosoder—

Eithriad 8

Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau yn Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 5A, 6B neu 6D.

117.  Yn rheoliad 12(1) (cyfnod cymhwystra – y rheol gyffredinol), yn lle “19, 20, 22 neu 23” rhodder “19, 20, 22, 22A, 23, 23A, 23B, 23C, 23D neu 23E”.

118.  Yn rheoliad 22A(1) (personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Categori 2A” rhodder “oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”;

(b)yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “Categori 2A”.

119.  Yn rheoliad 23A(1) (personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Categori 3A” rhodder “oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

(b)yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “Categori 3A”.

120.  Ar ôl rheoliad 23A mewnosoder—

Personau y mae eu caniatâd Calais wedi dod i ben

23B.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am gymorth—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros fel partner a ddiogelir wedi dod i ben

23C.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben

23D.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer—

(i)blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,

(ii)cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu

(iii)cwrs y mae statws P wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, na fo gan P ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny.

(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

23E.  Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“P”), yn rhinwedd—

(i)dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu

(ii)bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, na fo P yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

121.  Yn rheoliad 44(1) (amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth- eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

122.  Yn rheoliad 54 (amodau cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

123.  Yn rheoliad 62(2) (amodau cymhwyso i gael grant myfyriwr anabl - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

124.  Yn rheoliad 69(2) (amodau cymhwyso i gael grantiau ar gyfer dibynyddion - eithriadau), yn lle Eithriad 2 rhodder—

Eithriad 2

Yr unig baragraff neu baragraffau o Atodlen 2 y mae’r myfyriwr cymwys yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 1(3), 6(1), 6A(1), 6C neu 6D.

125.  Yn rheoliad 80 (cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (2)(b)—

(i)ym mharagraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

(ii)ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—

(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;;

(iii)hepgorer paragraff (ii);

(iv)yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(a) o Atodlen 2;;

(v)yn lle paragraff (v) rhodder—

(v)pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;;

(vi)ym mharagraff (vi), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

(vii)yn lle paragraff (vii) rhodder—

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2; neu;

(viii)ar ôl paragraff (vii) mewnosoder—

(viii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

(ii)yn y cofnod ar gyfer “aelod o deulu”, hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2)”;

(iii)hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

(iv)hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

(v)yn y lle priodol mewnosoder—

person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);;

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);.

126.  Yn rheoliad 81(3)(b) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd)—

(a)ym mharagraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

(b)ar ôl paragraff (ia) mewnosoder—

(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;;

(c)hepgorer paragraff (ii);

(d)yn lle paragraff (iv) rhodder—

(iv)pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;;

(e)ym mharagraff (v), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

(f)yn lle paragraff (vi) rhodder—

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;;

(g)ar ôl paragraff (vi) mewnosoder—

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

127.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4 (ystyr blwyddyn Erasmus), yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—

(a)cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol, neu

(b)y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing.

128.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6 (dehongli termau allweddol eraill)—

(a)yn is-baragraff (1), yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “cyfnod gras” yr ystyr a roddir i “grace period” gan reoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

(a)

person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

(i)

a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

(ii)

sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

(iii)

sy’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod gras wedi dod i ben, neu

(iv)

sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben, neu

(b)

aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“the 2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020;;

(b)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

(a)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

129.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1 (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig)—

(a)yn lle is-baragraff (1)(a)(i) rhodder—

(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2), a;

(b)yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—

(a)sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn—

(i)mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,

(ii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

(bb)mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, ac

(cc)byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath,

(iii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

(bb)mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod gras,

(iv)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion,

(bb)mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020, ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol, neu

(v)mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio,;

(c)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ac nad yw’n dod o fewn is-baragraff (2),

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(4) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo.

130.  Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 2ZA rhodder—

Categori 2ZA – Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

2ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo),

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)sy’n blentyn a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed, a

(ii)yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd),

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,

(b)ystyr “caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel person a ddiogelir” yw—

(i)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(iii)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

(iv)person sydd â chaniatâd Calais,

(c)ystyr “person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo,

(d)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros ar sail caniatâd fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,

(e)ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo),

(f)ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo,

(g)ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

(i)plentyn i—

(aa)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo,

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu

(ac)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu

(ii)plentyn i briod neu bartner sifil—

(aa)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, neu

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

(h)ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil i—

(i)person y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, neu

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

131.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZA mewnosoder—

Categori 2ZB - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant

2ZB.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo, ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig, a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir,

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(i)paragraffau 289B a 289D (dioddefwyr trais domestig),

(ii)paragraffau D-DVILR.1.1. a D-DVILR.1.2. o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig),

(iii)paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog),

(iv)paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth),

(v)paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth),

(vi)paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth), neu

(vii)paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth).

132.  Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 2A (categori 2A – personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd) a 3A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

133.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4 (categori 4 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

(b)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (c), yn lle’r geiriau o “, fel y’i hestynnir” hyd at y diwedd rhodder “(“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,”;

(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)at ddibenion paragraff (c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr mae’r cyfeiriad at “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.;

(c)yn is-baragraff (2A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

(d)yn is-baragraff (3)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Yn is-baragraff (1)” mewnosoder “ac is-baragraff (1) o baragraff 4A”;

(ii)yn y diffiniad o “aelod o deulu”, ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig AEE” rhodder “, person hunangyflogedig AEE neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel pe bai’n weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE yn rhinwedd paragraff 4A(4)”.

134.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

Categori 4A - Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd sydd â hawliau gwarchodedig

4A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig neu weithiwr trawsffiniol o fewn ystyr “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020—

(a)sy’n un o’r canlynol—

(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(ii)person cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE,

(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, neu

(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 5 Ebrill 2011 ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr o fewn yr Undeb (“y Rheoliad Gweithwyr”), fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3) At ddibenion is-baragraff (2)(c), yn Erthygl 10 o’r Rheoliad Gweithwyr—

(a)mae’r cyfeiriad at “national of a Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon, a

(b)mae’r cyfeiriad ar “another Member State” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyfeiriadau at “that State” i’w dehongli yn unol â hynny.

(4) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn AEE neu’n wladolyn AEE yn unig, yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE.

135.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 (categori 5 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

(b)yn is-baragraff (1)(b), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period” rhodder “IP”;

(c)hepgorer is-baragraff (5).

136.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Categori 5A - Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

5A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

(c)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio Gibraltar, yr AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd y cwrs yn dechrau,

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(f)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

(c)yn berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson (“P”) sydd—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, a

(b)wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni, neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(5) At ddibenion y paragraff hwn, roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

137.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6 (categori 6 – gwladolion UE)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

(b)yn is-baragraff (1A), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”;

(c)hepgorer is-baragraff (5).

138.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

Categori 6A - Gwladolion UE etc. sydd â hawliau gwarchodedig

6A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i), neu

(iii)yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(2) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Categori 6B – Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

6B.(1) Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i),

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

(2) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

Categori 6C – Aelodau o deulu gwladolion o’r Deyrnas Unedig

6C.  Person—

(a)sy’n aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

Categori 6D - Personau sy’n preswylio yn Gibraltar

6D.  Person—

(a)sydd—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar,

(iii)yn wladolyn UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE, neu

(iv)yn aelod o deulu gwladolyn UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE,

(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

139.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 7 (categori 7 – plant gwladolion Swisaidd)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”;

(b)yn is-baragraff (2), yn y testun Saesneg, yn lle “implementation period”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “IP”.

140.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 7 mewnosoder—

Categori 7A – Plant gwladolion Swisaidd sydd o fewn cwmpas y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd

7A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

141.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8 (categori 8 – plant gweithwyr Twrcaidd), yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021”.

142.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 8 mewnosoder—

Categori 8A – Plant gweithwyr Twrcaidd

8A.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu,

(b)a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn blentyn i T, a

(ii)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig,

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

143.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 9 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

(a)yn is-baragraff (2), ar ôl “Ynysoedd”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon fel aelodau o luoedd o’r fath;.

144.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 11 (dehongli)—

(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)yn yr is-baragraff hwnnw—

(i)hepgorer y diffiniadau o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw (oni nodir fel arall) mewn perthynas â pherson (“P”)—

(a)

priod P neu ei bartner sifil,

(b)

disgynyddion uniongyrchol P neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil P sydd—

(i)

o dan 21 oed, neu

(ii)

yn ddibynyddion P neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil P, neu

(c)

mewn achos pan fo P—

(i)

yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, neu

(ii)

at ddibenion paragraff 6A, yn berson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn UE neu’n wladolyn UE yn unig,

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol P neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil P;;

mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;;

(c)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.

145.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 4 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef os oes gan y person anabledd ac—

(a)mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

(i)ym mharagraff 1(1), 1(2), 2, 2ZA, 2ZB, 3, 4A, 5A, 6A(2), 6B, 7A neu 8A o Atodlen 2, neu

(ii)ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 pan fo is-baragraff (1A) yn gymwys,

ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu

(b)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.

(1A) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—

(i)pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu

(ii)pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a

(b)pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—

(i)y cwrs hwnnw, neu

(ii)cwrs ôl-radd dynodedig y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Atodlen hon.

146.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn lle Eithriad 7 rhodder—

Eithriad 7

Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau yn Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 5A neu 6B.

147.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 12A (personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “categori 2A” rhodder “yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros fel person diwladwriaeth”;

(b)yn is-baragraff (1)(b)(ii), hepgorer “Categori 2A”.

148.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13A (personau y mae eu caniatâd i aros o dan adran 67 wedi dod i ben)—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “categori 3A” rhodder “yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67”;

(b)yn is-baragraff (1)(b)(ii), hepgorer “categori 3A”.

149.  Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 13A mewnosoder—

Person y mae ei ganiatâd Calais wedi dod i ben

13B.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros fel partner a ddiogelir wedi dod i ben

13C.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZB) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—

(i)P, neu

(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,

aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

Personau y mae eu caniatâd i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio wedi dod i ben

13D.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan oedd person (“P”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—

(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu

(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a

(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, na fo gan P ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny.

(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.

13E.  Pan—

(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“P”), yn rhinwedd—

(i)dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu

(ii)bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,

yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs ôl-radd dynodedig, a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, na fo P yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

bydd statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

150.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 14 (dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

(a)yn is-baragraff (3)(b)—

(i)yn is-baragraff (ia), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

(ii)ar ôl is-baragraff (ia) mewnosoder—

(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;;

(iii)hepgorer is-baragraff (ii);

(iv)yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

(iii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;;

(v)yn lle is-baragraff (iv) rhodder—

(iv)pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;;

(vi)yn is-baragraff (v), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym”;

(vii)yn lle is-baragraff (vi) rhodder—

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;;

(viii)ar ôl is-baragraff (vi) mewnosoder—

(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.;

(b)yn is-baragraff (4)—

(i)hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

(ii)hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

(iii)hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

(iv)yn y lle priodol mewnosoder—

person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);;

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);.

151.  Yn Atodlen 5, ym mharagraff 4 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (aa), ar ôl “sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” mewnosoder “neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir”;

(ii)ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

(ab)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;;

(iii)hepgorer paragraff (b);

(iv)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(1)(a) o Atodlen 2;;

(v)yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;;

(vi)ym mharagraff (f), ar ôl “a ddisgrifir ym” mewnosoder “mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym”;

(vii)yn lle paragraff (g) rhodder—

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;;

(viii)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(h)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)hepgorer ““plentyn” (“child”)”;

(ii)yn y cofnod ar gyfer “aelod o deulu”, hepgorer “(o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2)”;

(iii)hepgorer ““hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”)”;

(iv)hepgorer ““gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”)”;

(v)yn y lle priodol mewnosoder—

person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);;

person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);.

152.  Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 16—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer “aelod o deulu” (at ddibenion penderfynu ar gategori person o dan Atodlen 2) a “hawl i breswylio’n barhaol”;

(b)yn lle’r cofnod yn yr ail golofn sy’n cyfateb i—

(i)“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2ZA”;

(ii)“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” rhodder “Atodlen 2, paragraff 2ZA”;

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

“aelod o deulu”Atodlen 2, paragraff 11
“caniatâd i aros fel partner a ddiogelir”Atodlen 2, paragraff 2ZB
“cyfnod gras”Atodlen 1, paragraff 6
“cyfnod perthnasol”Atodlen 1, paragraff 6
“cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”Atodlen 1, paragraff 6
“gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”Atodlen 2, paragraff 11
“person perthnasol o Ogledd Iwerddon”Atodlen 1, paragraff 6
“person sydd â chaniatâd Calais”Atodlen 2, paragraff 2ZA
“person sydd â hawliau gwarchodedig”Atodlen 1, paragraff 6
“person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir”Atodlen 2, paragraff 2ZA
“plentyn a ddiogelir”Atodlen 2, paragraff 2ZA
“priod neu bartner sifil a ddiogelir”Atodlen 2, paragraff 2ZA
“rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”Atodlen 1, paragraff 6
“Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020”Atodlen 1, paragraff 6