Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

2.  Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.

Rheoliad newydd 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion)

3.  Yn lle rheoliadau 6B a 6C rhodder—

Gofyniad i archebu a chymryd profion

6AB.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—

(a)sy’n cyrraedd Cymru,

(b)sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)nad yw’n berson a ddisgrifir yn—

(i)paragraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;

(ii)paragraffau 2 i 16, ac 36 o Atodlen 2;

(iii)paragraff 14 o Atodlen 5.

(2) Yn y Rhan hon—

(a)“prawf diwrnod 2” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;

(b)“prawf diwrnod 8” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 2 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 2A o’r Atodlen honno;

(c)“darparwr prawf cyhoeddus” yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978, neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972;

(d)ystyr “pecyn profi” yw—

(i)mewn cysylltiad â pherson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8;

(ii)mewn cysylltiad â pherson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2.

(3) Pan fo P yn oedolyn, rhaid i P, wrth iddo gyrraedd Cymru, feddu ar becyn profi a drefnir gyda darparwr prawf cyhoeddus—

(a)ar gyfer P, a

(b)ar gyfer plentyn sy’n 5 oed neu drosodd y mae gan P gyfrifoldeb drosto ac y mae P yn teithio gydag ef.

(4) Pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru heb feddu ar becyn profi sy’n ofynnol o dan baragraff (3), rhaid i P gael pecyn profi cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(5) Nid yw prawf i’w drin fel pe bai wedi ei drefnu yn unol â’r rheoliad hwn oni bai—

(a)bod y person sy’n trefnu’r profion wedi hysbysu’r darparwr prawf cyhoeddus fod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, a

(b)bod yr wybodaeth yn Atodlen 1B wedi ei darparu i’r darparwr prawf cyhoeddus mewn perthynas â P.

(6) Pan drefnir y profion, rhaid i’r darparwr prawf cyhoeddus ddarparu cyfeirnod prawf—

(a)i P, a

(b)i unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.

(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fo P—

(a)yn oedolyn, rhaid iddo gymryd y profion yn unol â’i becyn profi;

(b)yn blentyn sy’n 5 oed neu drosodd, rhaid i oedolyn sydd â chyfrifoldeb dros P sicrhau, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, fod P yn cymryd y profion yn unol â’r pecyn profi.

(8) Pan fo prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad positif, nid yw’n ofynnol i P gymryd prawf diwrnod 8.

(9) Pan na fo P yn cymryd prawf fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf (“prawf arall”) sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf nas cynhaliwyd.

(10) Pan gymerir prawf arall yn lle—

(a)prawf diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)prawf diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.

(11) Rhaid i berson sy’n meddu ar becyn profi ddarparu tystiolaeth ohono os yw swyddog mewnfudo neu gwnstabl yn gofyn amdani.

Rheoliadau newydd 6DA a 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion)

4.  Yn lle rheoliad 6D rhodder—

Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt

6DA.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliadau 6AB(1) a naill ai 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)P yn methu â chymryd prawf diwrnod 8, a

(b)naill ai—

(i)P yn methu â chymryd prawf diwrnod 2, neu

(ii)prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad negyddol neu amhendant.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—

(a)bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;

(b)bod y canlyniad yn negyddol, mae rheoliad 6G yn gymwys fel pe bai—

(i)P wedi cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6AB, a

(ii)y ddau brawf yn negyddol.

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf diwrnod 8 a gymerir—

(a)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (2) yn gymwys, ond

(b)yn ddim cynharach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt

6DB.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo ond nad yw rheoliad 7(1) na 8(1) yn gymwys iddo.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo P yn methu â chymryd prawf diwrnod 2.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3 ddiwethaf.

(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—

(a)bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;

(b)bod y canlyniad yn negyddol, nid yw’n ofynnol i P ynysu yn unol â rheoliad 7 mwyach.

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 ym mharagraff 1 o Atodlen 1C,

(b)a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), ac

(c)sy’n cael ei gymryd o fewn 10 niwrnod i’r diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Amnewid rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif)

5.  Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—

6E.  Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif—

(a)pan fo P yn berson—

(i)y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P), neu

(ii)nad yw rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, a

(b)nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru)(1) 2020 yn gymwys mewn perthynas â P.

Diwygiadau i reoliad 6F

6.  Yn rheoliad 6F (goblygiadau canlyniad positif i berson sy’n preswylio yn yr un fangre)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”;

(b)ym mharagraff (3)(a), yn lle “rheoliad 6C(1)(b)” rhodder “rheoliad 6AB”;

(c)ym mharagraff (3)(b), yn lle “rheoliad 6C(1)(a)” rhodder “rheoliad 6AB”.

Diwygiad i reoliad 6G

7.  Yn rheoliad 6G(1)(a) (goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwedd y cyfnod ynysu), yn lle “rheoliad 6C(1)” rhodder “rheoliad 6AB”.

Rheoliadau newydd 6HA a 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant)

8.  Yn lle rheoliad 6H (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant) rhodder—

Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt

6HA.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliadau 6AB(1) a naill ai 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6AB yn amhendant.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, neu

(b)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn negyddol, y diweddaraf o’r canlynol—

(i)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf, neu

(ii)y diwrnod y mae P yn cael y canlyniad negyddol, neu

(c)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn bositif, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(4) Pan fo paragraff (3)(c) yn gymwys, nid yw’n ofynnol i P gymryd y prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6AB.

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)prawf diwrnod 8 a gymerir yn unol â rheoliad 6AB;

(b)prawf—

(i)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 8 ym mharagraff 2 o Atodlen 1C,

(ii)a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), a

(iii)sy’n cael ei gymryd—

(aa)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond

(bb)cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt

6HB.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â pherson (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo ond nad yw rheoliad 7(1) na 8(1) yn gymwys iddo.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerir gan P yn unol â rheoliad 6AB yn amhendant.

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3 ddiwethaf.

(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys ond bod P yn cymryd prawf y mae paragraff (5) yn gymwys iddo wedi hynny a—

(a)bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6AB;

(b)bod y canlyniad yn negyddol, nid yw’n ofynnol i P ynysu yn unol â rheoliad 7 mwyach.

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 ym mharagraff 1 o Atodlen 1C,

(b)a drefnir yn unol â rheoliad 6AB(5), ac

(c)sy’n cael ei gymryd o fewn 10 niwrnod i’r diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Diwygiadau i reoliad 14

9.  Yn rheoliad 14 (troseddau)—

(a)ym mharagraff (1)(h), yn lle “6B a 6C” rhodder “6AB”;

(b)ym mharagraff (1)(i), yn lle “6D” rhodder “6DA a 6DB”;

(c)ym mharagraff (1B), yn lle “6B, 6C” rhodder “6AB”;

(d)ym mharagraff (1C), yn lle “rheoliad 6B” rhodder “rheoliad 6AB”;

(e)ym mharagraff (1D), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”.

Diwygiadau i reoliad 16

10.  Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)ym mharagraff (6)(ab), yn lle “reoliad 6D” rhodder “reoliad 6DA neu 6DB”;

(b)ym mharagraff (6AB)—

(i)yn lle “rheoliad 6B(3) neu (5)” rhodder “rheoliad 6AB(3)”;

(ii)yn lle “rheoliad 6C(1) neu (3)”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “rheoliad 6AB(7)”.

Diwygiadau i reoliad 17

11.  Yn rheoliad 17(2)(a) (defnyddio a datgelu gwybodaeth)—

(a)ym mharagraff (iii)—

(i)yn y geiriau cyn is-baragraff (aa), yn lle’r geiriau o “trefnu” hyd at y diwedd rhodder “trefnu neu’n cymryd prawf o dan reoliad 6AB”;

(ii)yn is-baragraff (bb)—

(aa)yn lle “reoliad 6B(2)(c)” rhodder “reoliad 6AB(2)(c)”;

(bb)yn lle “reoliad 6B(6)” rhodder “reoliad 6AB(6)”;

(iii)yn is-baragraff (dd), yn lle “rheoliad 6C” rhodder “rheoliad 6AB”;

(b)ym mharagraff (iv), yn lle “rheoliad 6B(8)” rhodder “rheoliad 6AB(11)”;

(c)ym mharagraff (v), yn lle “reoliad 6C” rhodder “reoliad 6AB”.

Diwygiadau i Atodlen 1

12.  Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), ym mharagraff 3—

(a)yn lle “rheoliad 6B” rhodder “rheoliad 6AB”;

(b)yn lle “rheoliad 6B(7)” rhodder “rheoliad 6AB(6)”.

Diwygiadau i Atodlen 1B

13.  Yn Atodlen 1B (gwybodaeth archebu)—

(a)yn y nodyn cwr tudalen, yn lle “Rheoliad 6B” rhodder “Rheoliad 6AB”;

(b)yn lle paragraff 2(a) rhodder—

(aa)cyfeiriad cartref P;

(ab)pan fo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad y mae’n bwriadu ynysu ynddo (os yw’n wahanol i’w gyfeiriad cartref);

(ac)pan fo P yn berson nad yw rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau y mae’n bwriadu aros ynddo neu ynddynt yn ystod y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd y Deyrnas Unedig;.

Diwygiadau i Atodlen 1C

14.  Yn Atodlen 1C (profion mandadol ar ôl cyrraedd Cymru)—

(a)yn y nodyn cwr tudalen, yn lle “Rheoliad 6B” rhodder “Rheoliad 6AB”;

(b)ar ôl paragraff 1 mewnosoder—

1A.  Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw bod P yn cymryd y prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.;

(c)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A.  Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(b) yw bod P yn cymryd y prawf diwrnod 8 heb fod yn hwyrach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Diwygiadau i Atodlen 3

15.  Yn Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)—

(a)yn Rhan 1, yn lle “Nid yw unrhyw wledydd, unrhyw diriogaethau nac unrhyw rannau o wledydd neu diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon” rhodder y cofnodion a ganlyn—

Awstralia

Brunei Darussalam

Gibraltar

Gwlad yr Iâ

Israel

Portiwgal

Seland Newydd

Singapore

Ynysoedd Ffaröe;

(b)yn Rhan 2, yn lle “Nid yw unrhyw diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon” rhodder y cofnodion a ganlyn—

Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha

Ynysoedd Falkland, De Georgia ac Ynysoedd De Sandwich.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill