xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 735 (Cy. 184) (C. 34)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau i Orchmynion Cychwyn Rhif 2, Rhif 3 a Rhif 4) 2021

Gwnaed

21 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

EnwiLL+C

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau i Orchmynion Cychwyn Rhif 2, Rhif 3 a Rhif 4) 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021LL+C

2.—(1Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)adrannau 17 i 36;;

(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

(3Yn erthygl 6—

(a)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)adrannau 17 i 36;;

(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

(4Ar ôl erthygl 7 mewnosoder—

7A.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen i’r Ddeddf i rym ar 22 Mehefin 2021—

(a)paragraff 24(1) at ddiben y ddarpariaeth ym mharagraff (b);

(b)paragraff 24(4).

(5Yn erthygl 8—

(a)o flaen paragraff (a) mewnosoder—

(za)adran 16;;

(b)yn lle is-baragraff (xl) o baragraff (j) rhodder—

(xl)paragraff 24(2), (5) a (6)(b) ac (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021LL+C

3.—(1Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)adrannau 17 i 36;;

(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021LL+C

4.—(1Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)adrannau 17 i 36;;

(b)yn lle is-baragraff (xxv) o baragraff (o) rhodder—

(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

21 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021, Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (“y Gorchmynion Cychwyn”) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchmynion Cychwyn wedi eu diwygio fel bod adran 16 o’r Ddeddf (diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) yn dod i rym yn llawn ar 1 Medi 2021, a pharagraff 24(4) o’r Atodlen i’r Ddeddf yn dod i rym yn llawn ar 22 Mehefin 2021.