Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Nodiadau Esboniadol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (y “Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu’r canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin: Anguilla, Antarctica/Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Antigua a Barbuda, Barbados, Bermuda, Dominica, Grenada, Madeira, Malta, Montserrat, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Baleares, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Pitcairn, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ac Ynysoedd Turks a Caicos.

Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn ychwanegu Eritrea, Gweriniaeth Dominica, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Mae rheoliad 5 yn diwygio cynnwys y cyhoeddiad iechyd y cyhoedd ar y llestr neu’r awyren y mae’n ofynnol i weithredwyr ei ddarparu i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaethau perthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help