Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

RHAN 2Cyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad

4.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

(2Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

(3Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.

Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectar

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 kg.

(2Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—

(a)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan, neu

(b)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 9 ar gyfer cadarnhau’r cynnwys nitrogen.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tir perllan” yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2;

(b)ystyr “compost ardystiedig” yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw;

(c)rhaid i’r meddiannydd gadw cadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).