xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10. Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl, ac wedi ei luosi â chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.
Cnwd | Maint y nitrogen a ganiateir (kg)(a) | Cynnyrch safonol (tunnell/ha) |
---|---|---|
(a) Caniateir 80 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer pob cnwd a dyfir mewn caeau os dodwyd gwellt neu slwtsh papur ar y cnwd presennol neu’r cnwd blaenorol. | ||
(b) Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol ar gaeau sydd â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy’n gorwedd ar dywodfaen). | ||
(c) Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol am bob tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol. | ||
(d) Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer rhywogaethau o wenith melino. | ||
(e) Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad o’r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu’r maint a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol. | ||
(f) Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer porfa a dorrir deirgwaith, o leiaf, bob blwyddyn. | ||
Merllys | 150 | dd/g |
Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar | 220(b) (c) (d) | 8.0 |
Betys (coch) | 350 | dd/g |
Ysgewyll Brwsel | 350 | dd/g |
Bresych | 350 | dd/g |
Calabrese | 350 | dd/g |
Blodfresych | 350 | dd/g |
Moron | 150 | dd/g |
Seleri | 250 | dd/g |
Courgettes | 250 | dd/g |
Corffa | 250 | dd/g |
Ffa maes | 0 | dd/g |
Indrawn porthi | 150 | dd/g |
Porfa | 300(f) | dd/g |
Cennin | 350 | dd/g |
Letys | 250 | dd/g |
Winwns | 250 | dd/g |
Pannas | 250 | dd/g |
Pys | 0 | dd/g |
Tatws | 270 | dd/g |
Radis | 150 | dd/g |
Ffa dringo | 250 | dd/g |
Gwenith a heuir yn y gwanwyn | 180(c) (d) | 7.0 |
Haidd y gwanwyn | 150(c) | 5.5 |
Betys siwgrSwêds | 120 | dd/g |
India-corn | 250 | dd/g |
Maip | 250 | dd/g |
Haidd y gaeaf | 180(b) (c) | 6.5 |
Rêp had olew y gaeaf | 250(e) | 3.5 |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)