- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
14.—(1) Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—
(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—
(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), neu
(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(2), neu Reoliad (EU) 1305/2013(3),
(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,
(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a
(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys