Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliadLL+C
4.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod [F1y cyfnod perthnasol] , na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.
[F2(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—
(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;
(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar [F331 Hydref].]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F2Rhl. 4(4) wedi ei fewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
F3Geiriau yn rhl. 4(4)(b) wedi eu hamnewid (29.4.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/466), rhlau. 1(2), 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)