xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
44.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol.
(2) O leiaf bob pedair blynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, a
(b)amodau amgylcheddol rhanbarthol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 44 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)