- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
6.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—
(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”),
(b)cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd, ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi ei blannu neu y bwriedir ei blannu.
(3) Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.
(4) Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.
(5) Rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a)cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol,
(b)y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, ac
(c)y math o gnwd.
(6) Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a)y math o bridd,
(b)y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy ei thorri ynteu ei phori),
(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi ei gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn,
(d)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu,
(e)maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr), ac
(f)y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys