Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

[F1Cymhwyso Atodlen 1ALL+C

1.  Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i ddeiliad daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.]