Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Rheoliad 24

ATODLEN 5LL+CY gofynion ar gyfer seilos

1.  Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

2.  Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C

(a)ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,

(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

3.  Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—LL+C

(a)yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a

(b)yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

4.—(1Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C

(a)bod wedi ei dylunio yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 1987(1), neu

(b)bod wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio asffalt wedi ei rolio’n boeth yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 1990(2).

(2Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

5.  Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

6.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

7.  Os oes gan y seilo furiau cynnal—LL+C

(a)rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(3),

(b)ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac

(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

9.  Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(1)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 1987. ISBN 0-580-16134-X.

(2)

Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 1990. ISBN 0-580-18348-3.

(3)

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.