- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 25
1. Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.
2. Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
3. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(1).
4. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.
5.—(1) Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—
(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu
(b)swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(2) Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
6. Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.
7. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
8. Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.
9. Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—
(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.
(2) Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys