xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 3, 4, 29, 34 a 36
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Categori | Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) | Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) | Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) |
---|---|---|---|
(a) Anifail gwryw wedi ei ysbaddu. | |||
(b) Yn achos mamog, mae’r ffigur hwn yn cynnwys un neu ragor o’i hŵyn sugno tan fod yr ŵyn yn chwe mis oed. | |||
Gwartheg | |||
Lloi (pob categori ac eithrio lloi cig llo) hyd at 3 mis: | 7 | 23 | 12.7 |
Buchod godro— | |||
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: | 20 | 95 | 34 |
O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf: | 40 | 167 | [F169] |
Ar ôl y llo cyntaf â’r— | |||
cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 litr: | 64 | 315 | 142 |
cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 litr: | 53 | 276 | 121 |
cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 litr: | 42 | 211 | 93 |
Buchod neu fustych eidion(a)— | |||
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis: | 20 | 91 | 33 |
O 13 mis ymlaen ac o dan 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
O 25 mis ymlaen— | |||
gwartheg benyw neu fustych i’w cigydda: | 31 | 137 | 60 |
gwartheg benyw ar gyfer bridio— | |||
sy’n pwyso 500 kg neu lai: | 32 | 167 | 65 |
sy’n pwyso mwy na 500 kg: | 45 | 227 | 86 |
Teirw | |||
nad ydynt ar gyfer bridio, ac sy’n 3 mis a throsodd: | 26 | 148 | 24 |
Bridio— | |||
o 3 mis ymlaen ac o dan 25 mis: | 26 | 137 | 43 |
o 25 mis ymlaen: | 26 | 132 | 60 |
Defaid | |||
O 6 mis ymlaen hyd at 9 mis oed: | 1.8 | 5.5 | 0.76 |
O 9 mis hyd at wyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda: | 1.8 | 3.9 | 2.1 |
Ar ôl wyna neu hwrdda(b)— | |||
yn pwyso llai na 60 kg: | 3.3 | 21 | 8.8 |
yn pwyso o 60 kg i fyny: | 5 | [F233] | 10.0 |
Geifr, ceirw a cheffylau | |||
Geifr: | 3.5 | 41 | 18.8 |
Ceirw— | |||
bridio: | 5 | 42 | 17.6 |
eraill: | 3.5 | 33 | 11.7 |
Ceffylau: | 24 | 58 | 56 |
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 1 Table 1 wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(6)(a)
F2Gair yn Atod. 1 Table 1 wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(6)(b)
Categori | Tail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau) | Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) | Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau) |
---|---|---|---|
(a) Sylwer: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn. | |||
Gwartheg | |||
Lloi cig llo: | 7 | 23 | 12.7 |
Dofednod(a) | |||
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu bwyta gan bobl— | |||
o dan 17 wythnos: | 0.04 | 0.64 | 0.47 |
o 17 wythnos ymlaen (mewn caets): | 0.12 | 1.13 | 1.0 |
o 17 wythnos ymlaen (nid mewn caets): | 0.12 | 1.5 | 1.1 |
Ieir a fegir ar gyfer cig: | 0.06 | 1.06 | 0.72 |
Ieir a fegir ar gyfer bridio— | |||
o dan 25 wythnos: | 0.04 | 0.86 | 0.78 |
o 25 wythnos ymlaen: | 0.12 | 2.02 | 1.5 |
Tyrcwn— | |||
gwryw: | 0.16 | 3.74 | 3.1 |
benyw: | 0.12 | 2.83 | 2.3 |
Hwyaid: | 0.10 | 2.48 | 2.4 |
Estrysiaid: | 1.6 | 3.83 | 18.5 |
Moch | |||
Yn pwyso o 7 kg i fyny ac yn llai na 13 kg: | 1.3 | 4.1 | 1.3 |
Yn pwyso o 13 kg i fyny ac yn llai na 31 kg: | 2 | 14.2 | 6.0 |
Yn pwyso o 31 kg i fyny ac yn llai na 66 kg— | |||
porthir â bwyd sych: | 3.7 | 24 | 12.1 |
porthir â hylifau: | 7.1 | 24 | 12.1 |
Yn pwyso o 66 kg i fyny ac— | |||
A fwriedir i’w cigydda— | |||
porthir â bwyd sych: | 5.1 | 33 | 17.9 |
porthir â hylifau: | 10 | 33 | 17.9 |
hychod a fwriedir ar gyfer bridio ond nad ydynt eto wedi cael eu torllwyth cyntaf: | 5.6 | 38 | 20 |
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet gydag ychwanegi-adau o asidau amino synthetig: | 10.9 | 44 | 37 |
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet heb ychwanegi-adau o asidau amino synthetig: | 10.9 | 49 | 37 |
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg: | 5.1 | 33 | 17.9 |
baeddod bridio o 150 kg | 8.7 | 48 | 28 |
Rheoliad 5
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Enw Botanegol | Enw Cyffredin |
---|---|
Cydonia oblonga | Cwins |
Malus domestica | Afalau |
Mespilus germanica | Afalau tindwll |
Morus spp. | Mwyar Mair |
Prunus armenaica | Bricyll |
Prunus avium | Ceirios melys |
Prunus cerasus | Ceirios duon (coginio) |
Prunus ceracifera | Eirin myrobalan |
Prunus domestica | Eirin |
Prunus domestica subsp. insititia | Eirin hirion |
Prunus persica | Eirin gwlanog |
Prunus persica var. nectarina | Nectarinau |
Prunus x gondouinii | Ceirios y Dug |
Prunus spinosa | Eirin duon bach |
Pyrus communis | Gellyg |
Pyrus pyrifolia | Gellyg Asia |
Rheoliadau 9, 36 a 37
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Tail ac eithrio slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg) |
---|---|
Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn— | |
gwartheg: | 6 |
moch: | 7 |
defaid: | 7 |
hwyaid: | 6.5 |
ceffylau: | 7 |
geifr: | 6 |
Tail o ieir dodwy: | 19 |
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: | [F330] |
Diwygiadau Testunol
F3Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 Table wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(7)
Slyri | Cyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg) |
---|---|
gwartheg: | 2.6 |
moch: | 3.6 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)— | |
blwch hidlo: | 1.5 |
wal hidlo: | 2 |
hidl fecanyddol: | 3 |
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 4 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol): | 3.6 |
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet): | 5 |
Dŵr budr: | 0.5 |
1.—(1) O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—
(a)os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a
(b)rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.
(3) Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.
(4) Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.
(5) Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
2.—(1) O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.
(2) Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.
(3) Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.
(4) Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na 12 mis oed.
(5) Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.
(6) Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.
(7) Yna, rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2 kg o leiaf, gael ei hanfon i’w dadansoddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Rheoliadau 20 a 22
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Y cnwd | Y gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar) |
---|---|
(a) Ni chaniateir taenu nitrogen ar gnydau ar ôl 31 Hydref. | |
(b) Caniateir taenu 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddiwedd y cynhaeaf. | |
(c) Caniateir taenu uchafswm o 40 kg o nitrogen yr hectar ar unrhyw un adeg. | |
Rêp had olew, gaeaf(a) | 30 |
Merllys | 50 |
Bresych(b) | 100 |
Porfa(a) (c) | 80 |
Sgaliwns wedi eu gaeafu | 40 |
Perllys | 40 |
Bylbiau winwns | 40 |
Rheoliad 24
1. Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
2. Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C
(a)ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
3. Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—LL+C
(a)yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a
(b)yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C
(a)bod wedi ei dylunio yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 1987(1), neu
(b)bod wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio asffalt wedi ei rolio’n boeth yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 1990(2).
(2) Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
5. Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
6. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
7. Os oes gan y seilo furiau cynnal—LL+C
(a)rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(3),
(b)ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac
(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
8. Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
9. Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 25
1. Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
2. Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
3. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(4).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
4. Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—LL+C
(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu
(b)swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.
(2) Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
6. Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
7. Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
8. Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
9. Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—LL+C
(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;
(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;
(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.LL+C
(2) Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 1987. ISBN 0-580-16134-X.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 1990. ISBN 0-580-18348-3.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.