xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018

52.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 53 i 57.

53.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.

54.  Yn lle rheoliad 8(b) rhodder—

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;.

55.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4A.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a

(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.

56.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;

(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);

(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;

(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).

57.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;

(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;

(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).

(1)

O.S. 2018/656 (Cy. 124), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/153 (Cy. 27); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).