- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014(1), ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—
15.—(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 9(1)(h), ac Erthygl 9(1)(i) fel y’i darllenir gydag Erthygl 26(3)—
(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny, a
(b)pe na bai’r mater wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn dyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a
(b)pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(4) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
(a)pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a
(b)pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(5) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(6) Caniateir i gynhyrchion eraill y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata hyd 31 Rhagfyr 2023.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cynnyrch gwin” (“wine product”) yw cynnyrch y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(2)fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys iddo;
ystyr “cynnyrch penodedig” (“specified product”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol, gan gynnwys cynnyrch gwin, sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwynt 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwyd(3)fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).”
O.S. 2014/2303 (Cy. 227), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2020/2220 (OJ Rhif L 437, 28.12.2020, t. 1).
OJ Rhif L 179, 19.6.2012, t. 36.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys