xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 916 (Cy. 209)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021

Gwnaed

1 Awst 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Awst 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 71, 76(9) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2021 ymlaen.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).

Diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol

2.  Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—

(a)yn lle “£58.87” rhodder “£59.98”, a

(b)yn lle “£21.31” rhodder “£21.71”.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Awst 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu ar gyfer taliadau i’w gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr eir iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 1.9% yn y ffi ar gyfer prawf golwg y GIG.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2006 p. 42; gweler adran 206(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

O.S. 1997/818, a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1600 (Cy. 199); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.