xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1027 (Cy. 220)

Treth Trafodiadau Tir, Cymru

Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

6 Hydref 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

10 Hydref 2022

Yn dod i rym

10th Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 24(1) a 78(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 10 Hydref 2022.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018(2);

(b)mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

Cymhwyso

3.  Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl—

(a)sydd â dyddiad cael effaith ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; a

(b)y mae Tabl 1 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt.

4.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3—

(a)os yw’r prynwr yn gwneud dewis yn unol â rheoliad 6; a

(b)naill ai:

(i)y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022; neu

(ii)y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ond nas cyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022 ac nad yw wedi ei eithrio gan reoliad 5.

5.  Mae trafodiad wedi ei eithrio gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3 y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 10 Hydref 2022 ac—

(a)pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022;

(b)pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; neu

(c)pan geir, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drosglwyddiad o ganlyniad iddo.

6.—(1Rhaid i ddewis o dan reoliad 4—

(a)cael ei gynnwys mewn ffurflen dreth a gyflwynir i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan ACC ynghylch ei ffurf neu’r modd y caiff ei gynnwys.

(2Ni chaiff prynwr ond gwneud dewis o dan reoliad 4 pan nad yw effaith dewis o’r fath yn arwain at godi mwy o dreth na fyddai wedi digwydd fel arall.

Diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018

7.—(1Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(2Yn lle Tabl 1 rhodder—

Tabl 1

Trafodiadau eiddo preswyl

Band trethY gydnabyddiaeth berthnasolY gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd seroNid mwy na £225,0000%
Y band treth cyntafMwy na £225,000 ond nid mwy na £400,0006%
Yr ail fand trethMwy na £400,000 ond nid mwy na £750,0007.5%
Y trydydd band trethMwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,00010%
Y pedwerydd band trethMwy na £1,500,00012%

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

6 Hydref 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/128) (“Rheoliadau 2018”) er mwyn mewnosod bandiau treth a chyfraddau treth canrannol diwygiedig ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl.

Mae rheoliad 3 yn cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig at drafodiadau eiddo preswyl pan fo’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith ar neu ar ôl 10 Hydref 2022.

Mae rheoliad 4 yn mynd ymlaen i nodi eithriadau i gymhwysiad cyffredinol y bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig mewn cysylltiad â thrafodiadau eiddo preswyl. Pan fo’r dyddiad y mae’r trafodiadau hyn yn cael effaith ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, ond cafodd contractau eu cyfnewid, neu cafodd y contract hwnnw ei gyflawni’n sylweddol cyn 10 Hydref 2022, caiff y prynwr ddewis cymhwyso’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol a oedd ar waith cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym at y trafodiad hwnnw. Ni ellir gwneud dewis o’r fath mewn amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5. Rhaid gwneud y dewis yn unol â gofynion rheoliad 6, sydd hefyd yn darparu na ellir ond gwneud dewis o’r fath os na fyddai hynny’n arwain at godi mwy o dreth na fyddai wedi digwydd fel arall.

Mae rheoliad 7 yn nodi’r bandiau treth a’r cyfraddau treth canrannol diwygiedig a fydd yn gymwys i’r trafodiadau a bennir yn rheoliad 3.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru .