Diwygio Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022LL+C
2.—(1) Mae Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i gychwyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016)—
(a)yn lle’r pennawd i baragraff 3 (Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981(2)), yn y testun Cymraeg, rhodder “Rheoliadau Tenantiaethau Sicr (Hysbysiad i’r Tenant) 1981”;
(b)ym mharagraff 19 (Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997(3)) yn is-baragraffau (b)(ii) a (iii), hepgorer “monthly”;
(c)ym mharagraff 20 (Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Cynlluniau Buddsoddi Torfol) 2001(4)), yn is-baragraff (a), yn lle “paragraff”, rhodder “is-baragraff”;
(d)ym mharagraff 21 (Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(5)), yn y testun Saesneg, yn lle is-baragraff (a), rhodder—
“(a)in regulation 2 (interpretation)—
(i)after the definition of “the Common Travel Area”, omit “and”;
(ii)for the full stop at the end of the definition of “the immigration rules”, substitute “; and”;
(iii)after the definition of “the immigration rules”, insert—
““secure contract” (“contract diogel”) has the same meaning as in the Renting Homes (Wales) Act 2016 (see section 8 of that Act).””;
(e)ym mharagraff 30 (Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016(6)), ym mharagraff (b), yn y troednodyn i Ddeddf Tai 1985(7), yn lle “o Ddeddf Tai 1989”, rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989”.
(3) Yn Atodlen 2 (dirymiadau), yn y pennawd “Tabl 1”, hepgorer “1”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 2 mewn grym ar 30.11.2022, gweler rhl. 1(2)