- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 3(1)
Mae’r sylwedd a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl(1).
(1) CAS Registry Number® a neilltuwyd i’r paratoad hwn gan y Gwasanaeth Crynodebu Cemegol https://www.cas.org/cas-data/cas-registry. | |
(2) Stocrestr Ewropeaidd o Sylweddau Masnachol Presennol, y rhif fel y’i cyhoeddwyd yn OJ Rhif C 146 A, 15.6.90, t.1. | |
(3) Mae manylion y dulliau dadansoddi wedi eu nodi yn y ddogfen sydd â’r cyfeirnod “JRC.DG.D.6/CvH/GB/ag/ARES(2011)356822” ac a ddiweddarwyd ddiwethaf ar 6 Mehefin 2016. Mae’r ddogfen ar gael ar y cyfeiriad a ganlyn: https://ec.europa.eu/jrc/en/eurl/feed-additives/evaluation-reports/fad-2010-0139. | |
(4) European Pharmacopoeia, Cyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau a Gofal Iechyd, 10fed argraffiad. Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2019 (ISBN 9789999146111). | |
(5) Llyfr Dull Cymdeithas Sefydliadau Dadansoddi ac Ymchwilio Amaethyddol yr Almaen (VDLUFA), Cyfrol III, 6ed atodiad 2006, Dadansoddi Bwydydd Anifeiliaid yn Gemegol (ISBN 978 3 941273 14 6), https://vdlufa.de. | |
(6) O dan y cyfeirnod BS EN 14164:2014 “Foodstuffs. Determination of vitamin B6 by high performance chromatography”. Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 30 Mehefin 2014 (ISBN 978 0 580 77941 1). Ar gael gan y Sefydliad Safonau Prydeinig https://knowledge.bsigroup.com. | |
(7) Cynnwys pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn mg o ychwanegyn/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn sydd â chynnwys lleithder o 12%. | |
Yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) |
Rhif adnabod yr ychwanegyn | 3a831 |
Deiliad yr awdurdodiad | Dim un wedi ei bennu |
Categori ychwanegion | Ychwanegion maethol |
Grŵp gweithredol | Fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg |
Cyfansoddiad yr ychwanegyn | Pyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5% |
Nodweddiad y sylwedd(au) actif | |
Dulliau dadansoddi(3) | I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
|
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:
| |
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:
| |
Rhywogaeth neu gategori o anifail | Pob rhywogaeth o anifail |
Oedran hynaf | Dim |
Isafswm cynnwys(7) | Dim |
Uchafswm cynnwys(7) | Dim |
Darpariaethau eraill | 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr. |
2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed. |
Mae’r awdurdodiad hwn yn adnewyddu’r awdurdodiad a roddwyd o dan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011. Mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddirymu gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys