- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022, Adran 34 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 30 Gorffennaf 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
34.—(1) Mae Deddf Tai (Cymru) 2014(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 2 (ystyr y prif dermau), yn is-adran (1), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddomestig”, yn lle paragraff (a), rhodder—
“(a)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r contract meddiannaeth—
(i)yn gontract safonol â chymorth, neu
(ii)hefyd yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (“Deddf 1993”) neu, yn achos les rhanberchnogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;”.
(3) Yn adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig)—
(a)rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—
“(d)i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);”.
(4) Yn adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig)—
(a)rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b)yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—
“(d)i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);”.
(5) Yn adran 30 (gorchmynion atal rhent), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (c), mewnosoder—
“(ca)mae swm unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 87 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.) i’w gyfrifo fel pe na bai’r gorchymyn atal rhent wedi ei wneud,”.
(6) O flaen adran 43, ar ôl y pennawd “Atodol”, mewnosoder—
Nid yw Rhan 1 o’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.”
(7) Yn adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau)—
(a)yn is-adran (1)—
(i)yn lle “hysbysiad adran 21”, rhodder “hysbysiad o fewn is-adran (1A)”;
(ii)yn lle “a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr”, rhodder “sy’n gontract meddiannaeth safonol”;
(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
“(1A) Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—
(a)a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);
(b)a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(c)fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);
(d)a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).”;
(c)yn is-adran (2), yn lle “Ond nid yw”, rhodder “Nid yw”;
(d)hepgorer is-adran (3).
(8) Yn adran 49(1) (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);”;
“mae i “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;”;
“mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;”.
(9) Yn adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben)—
(a)yn is-adran (2)—
(i)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “neu”;
(ii)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—
“(aa)cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu”;
(iii)ym mharagraff (b), ar ôl “addas”, mewnosoder “(yn Lloegr)”;
(b)yn is-adran (4)—
(i)yn lle paragraff (a), rhodder—
“(a)os yw’n gynnig o—
(i)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu
(ii)tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,”;
(ii)ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “mewn perthynas â llety yn Lloegr,”;
(c)yn lle is-adran (9), rhodder—
“(9) Yn yr adran hon—
mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);
mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).”
(10) Yn adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat)—
(a)yn y pennawd, ar ôl “interim”, mewnosoder “yn Lloegr”;
(b)yn is-adran (1), ar ôl “ddarparu llety”, mewnosoder “yn Lloegr”.
(11) Ar ôl adran 92, mewnosoder—
(1) Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan wneir tenantiaeth neu drwydded mewn cysylltiad â llety yng Nghymru gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon (digartrefedd), gweler paragraff 11 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).
(2) Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety, gweler paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).”
(12) Yn adran 99(2) (dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio)—
(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);”;
(b)yn y diffiniad o “landlord preifat”, yn lle “nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel)”, rhodder
“—
(a)annedd yng Nghymru, sydd o fewn adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (landlordiaid preifat);
(b)annedd yn Lloegr, nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel);”.
Diwygiwyd adran 99 gan baragraff 308(1) o Ran 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys