Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniolLL+C

6.—(1Mae cais am adolygiad a wnaed yn unol ag adran 125B(1) o Ddeddf 1996 (adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod prawf) cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (adolygiad y landlord o benderfyniad i estyn tenantiaeth ragarweiniol).

(2Mae adolygiad a gychwynnwyd o dan adran 125B o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a’i cwblhawyd cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw) i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016.

(3Mae hysbysiad a roddwyd gan y landlord o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 4(5) o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (ac mae paragraff 5 o Atodlen 4 (adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn) yn gymwys i hysbysiad o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 sy’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, neu i fethu â rhoi hysbysiad yn unol â’r adran honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022, gweler rhl. 1(2)

(1)

Mewnosodwyd adran 125B gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34).