Penderfyniadau mewn perthynas ag addasrwydd P i ddarparu gofal
21. Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—
(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(b)canslo cofrestriad P o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(c)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu
(d)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(1).