xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.
2. Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.
3. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.
4. Gweithgareddau sy’n gwella hylendid, iechyd, diogelwch, a llesiant.
5. Gweithgareddau sy’n cefnogi arallgyfeirio busnesau.
6. Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.
7. Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.
8. Gweithgareddau sy’n hyrwyddo creu swyddi ac yn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiannau morol, pysgota a dyframaethu.
9. Gweithgareddau sy’n cefnogi pysgotwyr neu ffermwyr dyframaethu i sefydlu busnesau pysgota neu ddyframaethu newydd.
10. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.
11. Gweithgareddau sy’n cefnogi’r gwaith o farchnata cynhyrchion morol, pysgodfeydd a dyframaethu neu bysgota hamdden.
12. Gweithgareddau sy’n arwain at gynhyrchion, prosesau, neu systemau rheoli a threfnu, newydd neu well.
13. Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.
14. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.
15. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.
16. Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.
17. Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.
18. Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.