xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 143 (Cy. 46)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022

Made

16 Chwefror 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 8 o Atodlen 9A i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1) ac adran 256(1) ohoni.

Yn unol ag adran 256(3) a (4)(ma)(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

(1)

2016 dccc 1. Mewnosodwyd Atodlen 9A gan adran 6(6) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) ac Atodlen 2 iddi.

(2)

Mewnosodwyd adran 256(4)(ma) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraff 21(c) o Atodlen 6 iddi.

(3)

Mae’r cyfeiriad yn adran 256(3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).