Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

5.  Yn lle rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru) a 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael) rhodder—

Darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael

3.(1) Rhaid i weithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol sicrhau bod yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (3) yn cael ei darparu i deithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth o’r fath, yn y modd sy’n ofynnol gan y rheoliad hwnnw ar yr adegau a bennir ym mharagraff (2).

(2) Yr adegau yw—

(a)pan fo archeb wedi ei wneud i’r teithiwr deithio ar y gwasanaeth perthnasol fwy na 24 awr cyn i’r daith ymadael, o leiaf 24 awr cyn i’r daith ymadael;

(b)pan fo archeb wedi ei wneud i’r teithiwr deithio ar y gwasanaeth perthnasol lai na 24 awr cyn i’r daith ymadael, ar unrhyw adeg cyn i’r daith ymadael.

(3) At ddibenion paragraff (1)—

(a)caniateir i’r wybodaeth ofynnol gael ei darparu ar lafar neu’n ysgrifenedig;

(b)os caiff ei darparu ar lafar, yr wybodaeth ofynnol yw’r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen (gwybodaeth hanfodol er mwyn dod i mewn i’r DU);

(c)os caiff ei darparu yn ysgrifenedig, yr wybodaeth ofynnol yw’r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen (gwybodaeth hanfodol er mwyn dod i mewn i’r DU) ac—

(i)pan fo wedi ei darparu drwy ddull electronig, hyperddolen at bob un o’r gwefannau perthnasol;

(ii)pan fo wedi ei darparu drwy ddull arall, destun neu URL pob un o’r gwefannau perthnasol;

(iii)mewn unrhyw achos, rhaid ei darparu mewn ffordd sy’n tynnu sylw’r teithwyr ati drwy fod yn arbennig o amlwg ac yn wahanol i wybodaeth ysgrifenedig arall a ddarperir mewn perthynas â’r archeb.

(4) Pan fo person arall (“A”) yn archebu taith ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol ar ran teithiwr arall (pa un a yw A hefyd yn deithiwr ar y gwasanaeth hwnnw ai peidio), rhaid trin y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â’r rheoliad hwn fel gofyniad y cydymffurfiwyd ag ef os darperir yr wybodaeth ofynnol i A yn y modd gofynnol ar yr adegau a bennir ym mharagraff (2), ynghyd â chais ysgrifenedig i A ddarparu’r wybodaeth honno i’r teithiwr.

(5) Pan na fo’r gweithredwr yn rheoli’r broses archebu neu gofrestru yn uniongyrchol, rhaid i’r gweithredwr gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y person sy’n rheoli’r broses yn cydymffurfio â pharagraff (1) ar ran y gweithredwr.

(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i berson sydd, yn rhinwedd oedran neu alluedd meddyliol, yn annhebygol o allu ei deall.

Yn ôl i’r brig

Options/Help