Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2A

3.  Yn rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill), ym mharagraff (12), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Bhutan

Cameroon

Cote d’Ivoire

Fiji

Y Gambia

Gogledd Cyprus

Irac

Liberia

Mali

Mauritania

Niger

Palau

Papua Guinea Newydd

Paraguay

Uzbekistan

Ynysoedd Solomon.

Diwygio rheoliad 6A

4.  Yn rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), ym mharagraff (4), ar y diwedd mewnosoder—

(f)person sy’n deithiwr rheoliad 2A.

Diwygio rheoliad 6AB

5.  Yn rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion), yn lle paragraff (2)(a), rhodder—

(a)“prawf diwrnod 2”—

(i)mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;

(ii)mewn perthynas â theithiwr rheoliad 2A, yw—

(aa)prawf a ddisgrifir ym mharagraff (i), neu

(bb)prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZBA o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno.

Diwygio rheoliad 6DB

6.—(1Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii),.

Diwygio rheoliad 6E

7.—(1)  Mae rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar y diwedd mewnosoder—

(c)bo P yn deithiwr rheoliad 2A–

(i)pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (6A) a (7) yn gymwys;

(ii)pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (6B), (6C) a (7) yn gymwys.

(3O flaen paragraff (7), mewnosoder—

(6A) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(6B) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(6C) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;

(b)yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (6B) yn negyddol.

(6D) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.

(4Yn rheoliad 6E, ar y diwedd mewnosoder—

(9) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);

ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).

Diwygio rheoliad 6HB

8.—(1)  Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 neu 8 (yn ôl y digwydd) yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer prawf diwrnod 2 yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii).

Diwygio rheoliad 9

9.  Yn rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau), ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—

(f)plentyn sydd o dan 5 oed pan fo’n cyrraedd Cymru;

(g)teithiwr rheoliad 2A.

Diwygio rheoliad 12

10.  Yn lle rheoliad 12 (diwrnod olaf yr ynysu), rhodder—

12.  At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad nad yw’n esempt ddiwethaf.

Diwygio rheoliad 14

11.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (1)(i), mewnosoder—

(ia)6E(6B).

(3Ym mharagraff (1B), ar ôl “6AB” mewnosoder “, 6E(6B)”.

(4Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(6B)”.

Diwygio rheoliad 16

12.  Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiad cosb benodedig)—

(a)Yn y geiriau cyn paragraff (a), ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ia)”;

(b)Yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”;

(c)Yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(6B)”.

Diwygio Atodlen 1C

13.—(1Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd.

1ZBA.(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu

(b)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZCA.

(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol–

(i)swabio’r trwyn yn y corgwn canol neu ym mlaen y ffroenau;

(ii)swabio’r tonsiliau;

(iii)poer;

(b)pan fo modd ei adnabod yn unigryw;

(c)pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a

(d)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.

Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd.

1ZCA.(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) a (h);

(b)pan fo wedi gwneud datganiad i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 6 Ionawr 2022 a bod yr Adran wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r gofynion hynny;

(c)pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;

(d)pan fo wedi darparu i’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(e)pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(f)pan fo’n sicrhau nad yw ond yn cael canlyniadau o’r defnydd cyntaf o’r ddyfais;

(g)pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i)am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa)am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,

(bb)a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac

(cc)am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);

(iii)mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);

(h)os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i)paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;

(ii)paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;

(iii)paragraff 2D(2) a (4).

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—

(a)derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;

(b)darparu’r prawf;

(c)casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;

(d)(d) dadansoddi’r prawf;

(e)gwirio canlyniad y prawf;

(f)darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.

(3Yn lle paragraff (1A) rhodder—

(1A) Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—

(a)bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(b)mewn perthynas â phrawf a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—

(i)tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—

(aa)y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan ddarparwr y prawf,

(bb)cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac

(cc)canlyniad y prawf, a

(ii)y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).

(4Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—

Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd

2E.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.

(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—

(a)hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu

(b)peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,

yn unol ag is-baragraff (4).

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—

(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;

(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).

(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif neu’n amhendant.

(5Ym mharagraff 2A o Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru), yn lle “yn hwyrach” rhodder “yn gynharach”.

(6Ym mharagraff 3(d), ar ôl ““un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZCA (1)(h),”.

(1)

O.S. 2020/574 (Cy. 132), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/24 (Cy. 8), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/48 (Cy. 11), O.S. 2021/50 (Cy. 12), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/72 (Cy. 18), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/154 (Cy. 38), O.S. 2021/305 (Cy. 78), O.S. 2021/361 (Cy. 110), O.S. 2021/454 (Cy. 144), O.S. 2021/500 (Cy. 149), O.S. 2021/568 (Cy. 156), O.S. 2021/584 (Cy. 161), O.S. 2021/646 (Cy. 166), O.S. 2021/669 (Cy. 170), O.S. 2021/765 (Cy. 187), O.S. 2021/826 (Cy. 193), O.S. 2021/863 (Cy. 202), O.S. 2021/867 (Cy. 203), O.S. 2021/915 (Cy. 208), O.S. 2021/926 (Cy. 211), O.S. 2021/967 (Cy. 227), O.S. 2021/1063 (Cy. 250), O.S. 2021/1109 (Cy. 265), O.S. 2021/1126 (Cy. 273), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1321 (Cy. 336), O.S. 2021/1330 (Cy. 343), O.S. 2021/1342 (Cy. 346), O.S. 2021/1354 (Cy. 352), O.S. 2021/1366 (Cy. 361), O.S. 2021/1369 (Cy. 362), O.S. 2021/1433 (Cy. 371).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill