Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 209 (Cy. 67)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022
Gwnaed
2 Mawrth 2022
Yn dod i rym
4 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1) a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.
Yn unol ag adran 50(6)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(5) o Atodlen 5 iddi, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.