Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 32 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn pennu’r wybodaeth a’r telerau y mae rhaid eu cynnwys mewn datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth.

Mae adran 32(4) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth hefyd gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir ac mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r wybodaeth esboniadol honno.

Mae rheoliadau 3 a 5 i 9 yn rhagnodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys yn y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth perthnasol, gan gynnwys contractau wedi eu trosi (gweler paragraff 1(1) o Atodlen 12 i’r Ddeddf am y diffiniad o “contract wedi ei drosi”).

Mae rheoliad 3 yn gymwys i bob contract meddiannaeth.

Mae rheoliad 5 yn gymwys i gontractau safonol cyfnodol.

Mae rheoliad 6 yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.

Mae rheoliad 7 yn gymwys i gontractau safonol â chymorth.

Mae rheoliad 8 yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol.

Mae rheoliad 9 yn gymwys i gontractau diogel.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.