Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022

Newidiadau dros amser i: Adran 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022, Adran 5. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Contract safonol cyfnodolLL+C

5.  Mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol, yn ogystal â chynnwys y materion a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gynnwys gwybodaeth esboniadol ynghylch y materion a ganlyn—

(a)bod contract deiliad y contract yn gyfnodol ac yn parhau o un cyfnod rhentu i’r nesaf (sef fel arfer yn fisol, yn wythnosol neu’n chwarterol);

(b)cyn y gall llys wneud gorchymyn adennill meddiant, bod rhaid i’r landlord ddangos bod yr holl weithdrefnau cywir wedi eu dilyn a bod o leiaf un o’r canlynol wedi ei fodloni—

(i)bod deiliad y contract wedi torri un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth (sy’n cynnwys methu â thalu rhent, ymgymryd ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu ymddygiad gwaharddedig arall neu fygwth ymgymryd ag ymddygiad o’r fath, neu fethu â gofalu’n briodol am yr annedd) a’i bod yn rhesymol ei droi allan;

(ii)bod gan ddeiliad y contract ôl-ddyledion rhent difrifol (er enghraifft pan fo’r cyfnod rhentu yn fis, os oes o leiaf ddau fis o rent heb ei dalu);

(iii)bod angen i’r landlord symud deiliad y contract a bod un o’r seiliau rheoli ystad o dan adran 160 (seiliau rheoli ystad) o’r Ddeddf yn gymwys, bod llety arall addas ar gael, neu y bydd ar gael, pan fydd y gorchymyn yn cael effaith a’i bod yn rhesymol ei droi allan;

(iv)pan fo’r contract meddiannaeth yn ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord) o’r Ddeddf fel teler o’r contract meddiannaeth, bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 o’r Ddeddf bod rhaid iddo ildio meddiannaeth ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a bod hefyd rhaid i’r landlord ddangos—

(aa)nad yw unrhyw gyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan 173 o’r Ddeddf yn gymwys, gan gynnwys y cyfyngiadau a nodir yn adran 75 (canlyniadau eraill gweithredu tai amlfeddiannaeth didrwydded: cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau) ac adran 98 (canlyniadau eraill gweithredu tai didrwydded: cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau) o Ddeddf Tai 2004(1) ac adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(2)),

(bb)y rhoddwyd o leiaf chwe mis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant ac na chaniateir rhoi’r hysbysiad yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl dyddiad meddiannu’r contract, heblaw pan fo’r contract o fewn Atodlen 8A(3) neu Atodlen 9(4) i’r Ddeddf, ac

(cc)pan fo’r contract o fewn Atodlen 8A i’r Ddeddf, y rhoddwyd o leiaf ddau fis o hysbysiad i ddeiliad y contract bod rhaid iddo ildio meddiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 4), gweler Rheoliadau

(3)

Mae Atodlen 8A yn nodi’r contractau safonol y gellir eu terfynu gyda dau fis o hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu gymal terfynu’r landlord. Mewnosodwyd Atodlen 8A gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3), ac Atodlen 1 iddi.

(4)

Mae Atodlen 9 yn nodi’r contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adran 175 (cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth) ac adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth) yn gymwys iddynt.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill