xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU ATODOL SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH HEBLAW CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL O SAITH MLYNEDD NEU RAGOR A CHONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH

Cyfnodau pan nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddiLL+C

11.  Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi(1).

Gwybodaeth Cychwyn

(1)

Gweler Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 94(1) o’r Ddeddf, sy’n rhagnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio. Gweler hefyd adran 91(1) o’r Ddeddf, sy’n ei gwneud yn ddarpariaeth sylfaenol i landlord sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.