Enwi a chychwyn
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(1) i rym.
Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “contract safonol” (“standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol rhagarweiniol” (“introductory standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 16(4) o’r Ddeddf;
mae i “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” (“prohibited conduct standard contract”) yr ystyr a roddir gan adran 116(6) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Ffurf ragnodedig
3.—(1) Mae ffurf ragnodedig hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud, neu ei rhoi neu ei gwneud, gan y Ddeddf neu o’i herwydd fel y mae wedi ei nodi yn y rheoliadau a ganlyn a’r Atodlen.
(2) Mae hysbysiad neu ddogfen arall sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.
Hysbysiad o gontract safonol
4. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 13 o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW1 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o gyfeiriad y landlord
5. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW2 yn yr Atodlen.
Hysbysiad bod y landlord wedi newid a hysbysiad o gyfeiriad y landlord newydd
6. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW3 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o newid cyfeiriad y landlord
7. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 39(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW4 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o’r amodau a osodir gan y prif landlord wrth gydsynio i gontract isfeddiannaeth
8. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW5 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o benderfyniad y prif landlord i drin contract isfeddiannaeth fel contract safonol cyfnodol
9. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 61(7) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW6 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i’r isddeiliad o hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract
10. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 64(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW7 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad adennill meddiant estynedig yn erbyn yr isddeiliad
11. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 65(3)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW8 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o waharddiad posibl deiliad y contract ar ôl cefnu ar y prif gontract a’r contract isfeddiannaeth
12. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 66(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW9 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad contract
13. Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(a) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW10 yn yr Atodlen.
Ffurf trosglwyddiad: trosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth gan gyd-ddeiliad contract
14. Mae ffurf ragnodedig trosglwyddiad o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW11 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o amrywio’r rhent
15. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 104(1) neu 123(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW12 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol gan gyd-ddeiliad contract
16. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 141(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW13 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o drosglwyddiad o hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract safonol cyfnod penodol ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract
17. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 142(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW14 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o wahardd dros dro: contract safonol â chymorth
18. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 145(4) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW15 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
19. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW16 yn yr Atodlen—
(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 174(1) o’r Ddeddf(2), a
(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
20. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—
(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i)adran 174A(1) o’r Ddeddf(3), neu
(ii)cymhwyso paragraff 25A(2)(4) o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
21. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW18 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol
22. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 180(3) o’r Ddeddf(5) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW19 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)
23. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan—
(a)adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, neu
(b)adran 188(1) o’r Ddeddf,
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW20 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o hawliad meddiant ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol: contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
24. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 182(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig, fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW21 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 9B i’r Ddeddf
25. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 186(1) o’r Ddeddf(6) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW22 yn yr Atodlen.
Hysbysiad cyn gwneud hawliad meddiant
26. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 159(1), 161(1), 166(1), 171(1) neu 192(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW23 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe mis
27. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1)(7) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf(8),
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.
Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis
28. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—
(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a
(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i)adran 195A(1) o’r Ddeddf(9), neu
(ii)cymhwyso paragraff 25D(2) o Atodlen 12 i adrannau 194 a 195 o’r Ddeddf(10),
fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW25 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o dynnu yn ôl hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol
29. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 201(3) o’r Ddeddf(11) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW26 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd
30. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW27 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu contract meddiannaeth oherwydd cefnu ar yr annedd
31. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 220(5) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW28 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth
32. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW29 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o derfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd anfeddiannaeth
33. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 225(6) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW30 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad cyd-ddeiliad contract i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract arall oherwydd anfeddiannaeth
34. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 227(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW31 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig
35. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(2) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW32 yn yr Atodlen.
Hysbysiad i gyd-ddeiliaid contract eraill o fwriad landlord i wneud cais am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract oherwydd ymddygiad gwaharddedig
36. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 230(3) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW33 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn y cyfnod rhagarweiniol
37. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW34 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o fwriad i wneud cais am orchymyn sy’n arddodi contract safonol ymddygiad gwaharddedig
38. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 1(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW35 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o ddiwedd cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig
39. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 3(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW36 yn yr Atodlen.
Hysbysiad o estyn cyfnod prawf: contract safonol ymddygiad gwaharddedig
40. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 4(1) o Atodlen 7 i’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW37 yn yr Atodlen.
Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnod penodol (contract wedi ei drosi)
41. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan baragraff 25B(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf(12) fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW38 yn yr Atodlen.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2022