Hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)LL+C
20. Mae ffurf ragnodedig hysbysiad o dan adran 173(1) o’r Ddeddf fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW17 yn yr Atodlen—
(a)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i—
(i)adran 174A(1) o’r Ddeddf(1), neu
(ii)cymhwyso paragraff 25A(2)(2) o Atodlen 12 i adran 174(1) o’r Ddeddf, a
(b)pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â chontract safonol cyfnodol heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 20 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 9)
Mewnosodwyd adran 174A gan adran 1(3) o Ddeddf 2021.
Mewnosodwyd paragraff 25A o Atodlen 12 gan adran 18 o Ddeddf 2021 a pharagraff 27(5) o Atodlen 6 iddi.