xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hysbysiad terfynu o dan gymal terfynu’r landlord: contract safonol cyfnod penodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o chwe misLL+C

27.  Mae ffurf ragnodedig hysbysiad—

(a)o dan gyfnod contract o’r math a grybwyllir yn adran 194(1)(1) o’r Ddeddf (cymal terfynu’r landlord), a

(b)pan na chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract o ganlyniad i adran 195(1) o’r Ddeddf(2),

fel y mae wedi ei nodi yn Ffurflen RHW24 yn yr Atodlen.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 27 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 9)

(1)

Diwygiwyd adran 194(1) gan adran 11(1) o Ddeddf 2021.

(2)

Diwygiwyd adran 195 gan adran 2(2) o Ddeddf 2021.